Os ydych chi am bleidleisio yn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026, rhaid i chi fod wedi cofrestru erbyn 11:59pm heddiw, 20 Ebrill 2026.
Cofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
Posts by Senedd Cymru
2 Mawrth 2026 Dyfodol Rygbi Cymru Annwyl Mr Collier-Keywood, Rwy'n ysgrifennu atoch yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ddydd Iau diwethaf, a hoffwn ddiolch i chi, Alison Thorne a Geraint John am ymddangos gerbron y Pwyllgor. Rydym yn cydnabod y gwaith caled, sylweddol, sydd wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf i sefydlogi sefyllfa ariannol Undeb Rygbi Cymru, yn ogystal â datblygiadau cadarnhaol o fewn diwylliant yr Undeb. Rydym hefyd yn cydnabod bod yr Undeb ac arweinwyr unigol weithiau'n agored i feirniadaeth sy'n amhriodol o ddidostur, yn enwedig ar-lein. Fodd bynnag, mae'n amlwg i ni fod rygbi Cymru mewn cyflwr enbydus. Mae’r ansicrwydd ynghylch dyfodol y rhanbarthau wedi achosi cryn bryder i bobl o bob cwr o Gymru. Ni ellir cyflawni unrhyw raglen newid heb feithrin consensws dros y newid hwnnw. Mae'n amlwg nad oes gan yr Undeb y consensws sydd ei angen i fwrw ymlaen â'r cynnig i leihau nifer y timau rhanbarthol o bedwar i dri. Rhaid i Undeb Rygbi Cymru gydnabod ei fod wedi colli'r ddadl dros ddyfodol y gêm broffesiynol. Roedden ni’n synnu eich clywed chi’n dweud wrthym, os na fydd eich cynigion presennol yn mynd rhagddynt yn ôl eich disgwyl, nad oes gennych chi Gynllun B. Pe bai hyn yn wir, gallai fod yn arwydd eich bod yn esgeuluso'ch dyletswyddau yn sylweddol. Rydym yn eich annog yn gryf i ddod o hyd i ddull gwahanol sy'n parhau i sefydlogi sefyllfa ariannol yr Undeb a chynnal hyder, ac sydd hefyd yn meithrin ymddiriedaeth clybiau a chefnogwyr.
Mae gan bobl Cymru ymdeimlad dwfn o berchnogaeth, balchder a chysylltiad emosiynol â’r gamp. Rhaid parchu a meithrin y cysylltiad hwnnw. Rhaid i'r Undeb osgoi sefyllfa lle mae’n ennill y bleidlais ond yn colli enaid rygbi Cymru. Byddem yn croesawu rhagor o eglurder ynghylch y materion sydd yn y llythyr hwn. Edrychaf ymlaen at dderbyn eich ymateb. Yn gywir, Delyth Jewell AS Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Ar ôl i Undeb Rygbi Cymru roi tystiolaeth i Bwyllgor Chwaraeon y Senedd ar 26 Chwefror, mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu at y sefydliad i nodi ei bryderon.
Darllenwch mwy: busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx
Darlun yn dangos draig cartŵn yn gwisgo het gaeaf, yn dathlu'n llawen gyda sbarcyl, dan dân gwyllt gyda'r testun 'Blwyddyn Newydd Dda'.
Blwyddyn Newydd Dda, bawb 💫
Dail a mefus y gelyn ar gefndir glas gyda'r testun Nadolig Llawen.
Nadolig Llawen, bawb! 🎄 🌟
Galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phroblemau chwyddiant a chynhyrchiant.
Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd eisiau i Lywodraeth Cymru adolygu ei chyllideb ddrafft, a mynd i'r afael â'r heriau allweddol hyn.
Cewch ddarllen mwy yma. https://bit.ly/4q3nWBY
Gyda amseroedd aros hir a dim digon o gymorth clinigol ar gael, clywodd Pwyllgor Iechyd y Senedd fod llawer o bobl yn wynebu effaith oedi triniaeth gofal llygaid.
Mae'r Pwyllgor yn galw am weithredu'r Strategaeth Glinigol Genedlaethol, er mwyn atal oedi pellach - https://bit.ly/44gO6Jh
Gwnaeth yr Aelod Senedd newydd dros Gaerffili, Lindsay Whittle AS, ei gadarnhad yn Siambr Hywel heddiw.
Gallwch ddysgu mwy am yr Aelodau a dod o hyd i'r AS ar gyfer eich etholaeth yn:
https://bit.ly/3O8po4J
Beth yw eich barn chi ar rasio milgwn yng Nghymru?
Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd eisiau clywed eich barn!
Cwblhewch yr arolwg a dweud eich dweud: https://bit.ly/4q4JGhR
Mae adroddiad gan y Senedd yn rhybuddio bod Cymru wedi cyrraedd croesffordd wrth i raniadau ddyfnhau.
Mae'n galw am gamau brys i feithrin ymddiriedaeth, ymdrin â chamwybodaeth a dod â chymunedau ynghyd. https://bit.ly/4pWrUgt
Delwedd hyrwyddo yn dangos milgwn yn rasio ar hyd trac, gyda thestun wedi'i orchuddio yn darllen 'AROLWG Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)'.
Rhannwch eich barn!
Mae arolwg Pwyllgor Diwylliant y Senedd ar rasio milgwn yng Nghymru bellach ar gael.
Dim ond cwpl o wythnosau sydd gennych i gymryd rhan, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dweud eich dweud: 👉 https://bit.ly/42rnLar
Holl ddyddiadau allweddol etholiad y Senedd 2026, mewn un lle.
O ddiwrnod y bleidlais i’r cerrig milltir sy’n dilyn yr etholiad, cedwir y llinell amser hon yn gyfredol—y ffordd gyfleus ichi gael y diweddaraf. https://bit.ly/42hYLCu
Mae’r Aelodau yn holi Llywodraeth Cymru ar yr economi, ynni, cynllunio, iechyd a gofal cymdeithasol heddiw.
Yn ddiweddarach, byddant yn trafod cynnig i gael Bil ar dipio anghyfreithlon a deiseb yn galw am osod briciau gwenoliaid duon mewn adeiladau newydd.https://bit.ly/4mM62Bz
Yn etholiad 2026, bydd y fformiwla hon yn helpu i bennu ffurf y Senedd. Mae’n dyrannu seddi mewn rowndiau, ac yn troi pleidleisiau’n gynrychiolaeth.
Dyma sut mae’n gweithio a beth mae hynny’n ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru: https://bit.ly/421Qi5U
Yr Aelodau yn holi’r Prif Weinidog yn FMQs heddiw.
Yn ddiweddarach, byddant yn clywed datganiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer enwau lleoedd Cymraeg a dyfodol Ystad y Goron yng Nghymru.
Dyma bopeth sydd ar y gweill heddiw:busnes.senedd.cymru/ieListDocuments.aspx
Mae cynllunio ar gyfer prosiectau megis amddiffynfeydd rhag llifogydd a datblygiadau ynni’n cael ei ddal yn ôl gan Lywodraeth Cymru.
Dyma un o brif ganfyddiadau adroddiad gan Bwyllgor Seilwaith y Senedd.
Bydd Aelodau’n trafod yr adroddiad yn y Senedd heddiw.
Dysgu mwy: https://bit.ly/4mqv1KF
Faint ydych chi’n ei wybod am y Senedd?
Profwch eich gwybodaeth gyda’n cwis cyflym – tybed beth wnewch chi ei ddysgu ar hyd y ffordd? senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sened...
Mae Aelodau o’r Senedd (ASau) wedi pleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau – 37 o blaid, 12 yn erbyn ac 1 yn ymatal.
Nawr bydd yn symud i gyfnod trafod manwl a newidiadau posibl cyn i’r Aelodau bleidleisio ynghylch a ddylai ddod yn gyfraith. https://bit.ly/3Vq5whB
Mae Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 wedi cael y cydsyniad brenhinol a daw’n Ddeddf gan Senedd Cymru—cyfraith newydd yng Nghymru.
Gallwch archwilio holl fanylion y Ddeddf ar ein gwefan. https://bit.ly/3UOdNeT
Car wedi suddo ar stryd sydd wedi gorlifo. Mae'r copi yn darllen "Difrod storm: Diffyg cefnogaeth yn brifo’n ddwfn".
Mae cymorth brys yn dilyn stormydd Bert a Darragh wedi bod yn annigonol i gymunedau Cymru.
Roedd teuluoedd a busnesau’n wynebu costau enfawr heb fawr o gymorth.
Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd yn galw am ddiwygiadau ar frys i gyllid, yswiriant a chynllunio seilwaith.
🔗 https://bit.ly/46pobjP
Mae Pwyllgor yn y Senedd wedi galw am i ofal canolraddol yng Nghymru gael ei ddiwygio.
Mae'n dweud bod rhaid i leoliadau ar ôl yr ysbyty flaenoriaethu adferiad, annibyniaeth a mynediad at ofal arbenigol. https://bit.ly/3K8I0Df
Mae Pwyllgor yn y Senedd wedi codi pryderon ynghylch cymorth i gleifion yng Nghymru sy'n gadael yr ysbyty.
Mae'n annog ailfeddwl ynghylch rhyddhau cleifion i sicrhau bod gofal yn canolbwyntio ar ymadfer ac ar helpu pobl i fyw’n annibynnol eto. https://bit.ly/3K8I0Df
Gallai Bil newydd ail-reoleiddio bysiau, ond yn ôl tystiolaeth mae angen llawer o fuddsoddi a chynllunio.
Mae Pwyllgor y Senedd yn cwestiynu costau ac yn amlygu diffyg manylion.
Fory, bydd y Senedd yn pleidleisio ar ei egwyddorion cyffredinol. https://bit.ly/3I6rWRY
Y Llywodraeth a’r Senedd—yn aml yn cael eu drysu, ond ni allai eu rolau fod yn fwy gwahanol.
Beth am edrych yn fanylach ar yr hyn y mae’r ddau yn ei wneud. senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sened...
Yn etholiad 2026, bydd y fformiwla hon yn helpu i bennu ffurf y Senedd. Mae’n dyrannu seddi mewn rowndiau, ac yn troi pleidleisiau’n gynrychiolaeth.
Dyma sut mae’n gweithio a beth mae hynny’n ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru: https://bit.ly/421Qi5U
Newidiadau mawr ar gyfer 2026: bydd Cymru’n mynd o 40 i 16 etholaeth Senedd, pob un â chwe Aelod.
Dysgwch sut cafodd yr ardaloedd hyn eu llunio – ac ystyr hyn ar gyfer eich cymuned. senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sened...
Gallai Bil newydd drawsnewid teithio â bysiau yng Nghymru.
Ond mae pwyllgor yn y Senedd yn pryderu bod diffyg manylder a chanllawiau clir yn y Bil – ac mae rhanddeiliaid yn cytuno ag ef.
Pleidleisir ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 16 Medi. https://bit.ly/3I6rWRY
Mae cymorth brys yn dilyn stormydd Bert a Darragh wedi bod yn annigonol i gymunedau Cymru.
Roedd teuluoedd a busnesau’n wynebu costau enfawr heb fawr o gymorth.
Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd yn galw am ddiwygiadau ar frys i gyllid, yswiriant a chynllunio seilwaith.
🔗 https://bit.ly/46pobjP
Ar 7 Mai 2026, bydd Cymru’n pleidleisio ar y newidiadau mwyaf i’r Senedd mewn 25 mlynedd: 96 Aelod, 16 etholaeth newydd, un bleidlais yr un.
P’un a ydych yn pleidleisio am y tro cyntaf ai peidio, dyma fydd yn newid—a pham. https://bit.ly/40Ycmhx
Faint ydych chi’n ei wybod am y Senedd?
Profwch eich gwybodaeth gyda’n cwis cyflym – tybed beth wnewch chi ei ddysgu ar hyd y ffordd? senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sened...
Oeddech chi’n gwybod bod eich Senedd yn newid yn 2026?
✍️Y ffordd rydych chi'n ethol pwy sy’n eich cynrychioli
🗺️Sawl Aelodau sy'n eich cynrychioli
📅Pa mor aml y cynhelir etholiadau i ddewis pwy sy'n eich cynrychioli
Pob dim sydd angen i chi wybod ⬇️
https://bit.ly/4fU8kev