Advertisement · 728 × 90

Posts by Y Selar

Preview
Achlysurol yn cynnig blas pellach o’u halbwm Wrth baratoi i ryddhau eu halbwm newydd ym mis Ebrill, mae’r band o’r Felinheli, Achlysurol, wedi rhyddhau eu trydedd sengl fel tamaid i aros pryd.  ‘Cysgod y Dail’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf sydd al...

‘Cysgod y Dail’ ydy'r sengl olaf cyn rhyddhau albwm Achlysurol fis yma

2 weeks ago 0 0 0 0
Preview
Sefydlu cymdeithas labeli recordiau cyntaf Cymru Ar ôl bod yn cyfarfod yn achlysurol ers sawl blwyddyn, mae rhai o brif labeli recordiau Cymru wedi penderfynu ffurfioli sefydlu Cymdeithas Labeli Cymru a mynd ati i ddatblygu rhaglen waith flynyddol. ...

Mae labeli recordiau Cymraeg wedi dod ynghyd i ffurfio cymdeithas newydd, ac @ywsgwynedd.bsky.social o Recordiau Côsh ydy'r cadeirydd cyntaf

2 weeks ago 0 0 0 0
Preview
EP newydd Mali Hâf ‘Miwsli’ ydy enw’r EP newydd gan Mali Hâf sy’n gasgliad mewnsyllgar i’w fwynhau gyda phowlen o gerddoriaeth pop hwyliog a hudolus! Daw’r casgliad byr ar ôl iddi ryddhau’r sengl ‘Muse’ ym mis Chwefror,...

'Miwsli' ydy enw EP newydd Mali Hâf sy'n agor y drws i'w byd bach diddorol

4 weeks ago 0 0 0 0
Preview
Albwm cyntaf Lafant ar y ffordd Bydd y band o ogledd Sir Benfro, Lafant, yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ar ddydd Gwener  20 Mawrth. Wrth baratoi i wneud hynny, maent wedi rhyddhau blas pellach o’r casgliad ar ffurf y sengl ‘Olwen’.  Y...

Albwm cyntaf Lafant allan penwythnos yma ar Fflach Cymunedol
selar.cymru/2026/albwm-c...

1 month ago 0 0 0 0
Preview
Selar3 – rhyddhau record feinyl diweddaraf Y Selar Mae Y Selar wedi rhyddhau record feinyl aml-gyfrannog newydd sy’n cynnwys traciau gan ddetholiad o artistiaid mwyaf amrywiol a chyffrous y sin ar hyn o bryd.  ‘Selar3’ ydy enw’r record newydd ac mae’n...

Balch iawn i gyflwyno ein record feinyl hyfryd diweddaraf - Selar3!

Hwn ar y ffordd i aelodau Clwb Selar wythnos yma.

Diolch yn fawr i'r artistiaid a label am eu parodrwydd i gyd-weithio, ac i Lleucu Non am y gwaith celf 👌

1 month ago 0 0 0 0
Preview
Hattrick o Wobrau’r Selar i Buddug Am yr ail flwyddyn yn olynol, Buddug oedd prif enillydd Gwobrau’r Selar a gynhaliwyd yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Sadwrn 21 Chwefror.  Enillodd yr artist o Frynrefail bedair gwobr sef ‘Cân Ora...

Llongyfarchiadau mawr i holl enillwyr Gwobrau'r Selar

2 months ago 2 0 0 0
Preview
Mr Phormula yn derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig Y Selar Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi mai Mr Phormula, Ed Holden, ydy enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni.  Cyhoeddwyd y newyddion ar sioe Radio Cymru Ifan Davies ddydd Gwener, 20 C...

Llongyfarchiadau mawr i Mr Phormula, Ed Holden - enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau'r Selar eleni 👏

2 months ago 0 0 0 0
Preview
Cyhoeddi rhestrau byr ‘Band Gorau’ a ‘Gwaith Celf Gorau’ Mae Y Selar wedi cyhoeddi  rhagor o rhestrau byr Gwobrau’r Selar, mewn cydweithrediad â BBC Radio Cymru. Mae saith o restrau byr wedi eu cyhoeddi eisoes sef ‘Band neu Artist Newydd Gorau’, ‘Record Fer...

Rhestrau byr diweddaraf Gwobrau'r Selar wedi eu datgelu - un arall i ddod ar raglen Ifan Davies BBC Radio Cymru fory (dydd Gwener 20 Chwefror) ynghyd â un cyhoeddiad pwysig iawn arall! Tiwniwch mewn.
Tocynnau'r noson Wobrau yn Aber dal ar gael (dolen yn y stori)

selar.cymru/2026/cyhoedd...

2 months ago 0 0 0 0
Advertisement
Post image

7 DIWRNOD I FYND!
Wythnos i heno byddwn ni yn @undebaber ar gyfer noson Wobrau'r Selar!

Gwnewch yn siŵr eich bod chi yna - archebwch eich tocynnau nawr!
selar.cymru/gwobrau/tocyn/

2 months ago 0 0 0 0
Preview
Mali Hâf yn rhyddhau sengl ddofn a phersonnol Bydd yr artist gweithgar a chyffrous, Mali Hâf, yn dychwelyd gyda’i sengl ddiweddaraf ddydd Gwener nesaf, 13 Chwefror.  ‘Muse’ ydy enw’r sengl ethereal indie-pop dyner a theimladwy newydd ganddi sydd ...

'Muse' ydy'r sengl ddiweddaraf i lanio gan Mali Hâf

2 months ago 0 0 0 0
Preview
Knuckle MC yn cydweithio gyda Crwban ar sengl Mae sengl ddiweddaraf yr artist hip-hop, Knuckle MC, yn ei weld yn cyd-weithio gyda’r artist electronig Crwban. ‘B.D.O.T’  ydy enw’r sengl newydd sydd nid yn unig yn dod â’r ddau artist ynghyd, ond he...

Mae Knuckle MC yn ôl gyda'i sengl ddiweddaraf, ac wedi bod yn cyd-weithio gyda'r artist electronig, Crwban

2 months ago 0 0 0 0
Preview
Cyhoeddi rhestrau byr cyntaf Gwobrau’r Selar Mae Y Selar wedi dechrau cyhoeddi rhestrau byr Gwobrau’r Selar, mewn cyd-weithrediad â BBC Radio Cymru. Roedd Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar a phrif drefnydd y Gwobrau, ar raglen Mirain Iwerdyd...

Pedair o restrau byr Gwobrau'r Selar wedi eu cyhoeddi bellach, a bydd un arall yn cael ei datgelu ar raglen BBC Radio Cymru Mirain Iwerydd heno - tiwniwch mewn

2 months ago 0 0 0 0
Preview
Major Welsh music awards return for first time since Covid The line-up and presenter have been announced for a major Welsh music awards making its return since it went on hiatus during Covid. Y Selar Awards return for the first time since 2020 with an awards ...

Diolch i Nation.Cymru am y darn yma am Wobrau'r Selar eleni 👌
nation.cymru/culture/majo...

2 months ago 0 0 0 0
Preview
Cyhoeddi lein-yp llawn Gwobrau’r Selar Wrth i bleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar gau, rydyn ni hefyd wedi datgelu lein-yp y gig eleni. Caeodd y bleidlais ar nos Wener 23 Ionawr gyda channoedd o bobl yn bwrw pleidlais dros y 10 categori ag...

Rhag ofn i chi golli'r newyddion yn gynharach yn yr wythnos, mae holl fandiau noson Wobrau'r Selar eleni wedi eu cadarnhau bellach ac mae'n chwip o leinyp!
Tocynnau ar werth nawr am £15 - bachwch un cyn iddyn nhw fynd!
selar.cymru/2026/cyhoedd...

2 months ago 0 0 0 0
Post image

📣CYHOEDDIAD LEIN-YP LLAWN📣
Dyma ni felly, yr amser wedi dod i gyhoeddi lein-yp llawn Gwobrau'r Selar eleni.

Tocynnau ar werth nawr - peidiwch meiddio colli'r noson arbennig yma 🔥
selar.cymru/gwobrau/tocyn/

Diolch hefyd i Brifysgol Aberystwyth am noddi'r digwyddiad ❤️
#gwobraurselar

2 months ago 0 0 0 0
Advertisement
Post image

CYHOEDDIAD LEIN-YP
Yr amser wedi dod i gyhoeddi mwy o fanylion Gwobrau'r Selar!
Rydan ni'n falch iawn i ddatgelu bydd Bwncath a Buddug yn ymuno gyda ni yn Aber ar 21/02.
Rydan ni hefyd yn hynod o falch i gyhoeddi mai Mirain Iwerydd fydd yn cyflwyno'r noson o'r llwyfan
selar.cymru/gwobrau/plei...

3 months ago 0 0 0 0
Preview
Pleidleisia dros Wobrau’r Selar 2025 Nod Gwobrau’r Selar yw gwobrwyo’r bandiau ac artistiaid cerddorol cyfoes sydd wedi bod yn weithgar yn y sin Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae panel o gyfranwyr rheolaidd cylchgrawn Y Selar wedi l...

Dim ond tri diwrnod ar ôl i bleidleisio dros Wobrau'r Selar. Mae cannoedd wedi pleidleisio'n barod ond mae ambell gategori dal yn agos iawn. Pleidlais yn cau ar 23 Ionawr.

Cofiwch fanteisio hefyd ar y pris 'cyntaf i'r felin' rhad ar gyfer tocynnau noson Wobrau'r Selar
selar.cymru/gwobrau/plei...

3 months ago 0 0 0 0
Preview
Lleuwen ar daith Gwanwyn PYST x Mentrau Iaith Mae asiantaeth PYST wedi cyhoeddi manylion eu pedwaredd taith ar y cyd.  Lleuwen fydd prif artist y daith y tro hwn, gyda gigs mewn naw o leoliadau ledled Cymru yn ystod mis Chwefror.  Mae’r daith yn ...

Bydd Lleuwen Steffan ar daith ddiweddaraf @pyst.bsky.social a Mentrau Iaith Cymru ym mis Chwefror

3 months ago 1 0 0 0
Preview
Pleidleisia dros Wobrau’r Selar 2025 Nod Gwobrau’r Selar yw gwobrwyo’r bandiau ac artistiaid cerddorol cyfoes sydd wedi bod yn weithgar yn y sin Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae panel o gyfranwyr rheolaidd cylchgrawn Y Selar wedi l...

Pleidlais Gwobrau'r Selar ar agor nes 23 Ionawr ✅
Tocynnau'r gig ar werth am bris bargen gynnar ✅

3 months ago 0 0 0 0
Preview
Gwobrau’r Selar yn dychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth Mae cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar wedi cyhoeddi y bydd digwyddiad byw Gwobrau’r Selar eleni yn dychwelyd i’r lleoliad lle cafodd y digwyddiad ei gynnal rhwng 2015 a 2020. Ers 2013, mae Gwobrau’r Sel...

Diolch i @golwg.360.cymru am y stori fach yma

3 months ago 0 0 0 0
Preview
Albwm meddylgarwch Ffos Goch Mae Ffos Goch wedi rhyddhau albwm newydd sy’n reit unigryw o’r enw ‘Gwaith Heddychlon’. Syniad yr albwm, sy’n gasgliad o bump o draciau ydy cynnig trac sain i bobl ei ddefnyddio er mwyn ymarfer meddyl...

Mae @ffosgoch.bsky.social yn parhau'n gynhyrchiol ac wedi rhyddhau casgliad newydd reit unigryw

3 months ago 1 0 0 0
Preview
Gwobrau’r Selar i ddychwelyd i’w cartref ysbrydol Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi manylion dyddiad a lleoliad digwyddiad byw Gwobrau’r Selar. Y newyddion mawr ydy  bydd y noson yn dychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef y lleoliad lle cynhal...

Balch iawn i gyhoeddi manylion cyntaf Gwobrau'r Selar eleni - 21 Chwefror, ac yn ôl yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth lle'r ydan ni wedi gweld cymaint o nosweithiau cofiadwy. Bydd pleidlais Gwobrau'r Selar yn agor mewn ychydig ddyddiau, a thocynnau'r gig ar werth yr un pryd 🔥

3 months ago 0 0 0 0
Preview
Artistiaid ifainc i’w gwylio 2026 Geiriau: Gruffudd ab Owain Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi dyfod unwaith eto… na, nid yr amser i stwffio’r Twrci a phanig-brynu archebion (os ydych chi dal yn sdỳc, beth am aelodaeth i Glwb Y Selar?...

Pwy ydy'r artistiaid newydd i gadw llygad barcud arnyn nhw yn ystod 2026? Dyma farn Golygydd cylchgrawn Y Selar, Gruffudd Emrys

3 months ago 0 0 0 0
Preview
Artistiaid ifainc i’w gwylio 2026 Geiriau: Gruffudd ab Owain Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi dyfod unwaith eto… na, nid yr amser i stwffio’r Twrci a phanig-brynu archebion (os ydych chi dal yn sdỳc, beth am aelodaeth i Glwb Y Selar?...

Pwy ydy'r artistiaid cerddorol newydd fydd yn creu argraff yn ystod 2026? Dyma argymhellion Golygydd Y Selar, Gruffudd Emrys

3 months ago 0 0 0 0
Preview
Blwyddlyfr Y Selar 2025 Mae Blwyddlyfr Y Selar 2025 wrthi’n cael ei argraffu, a bydd yn cyrraedd aelodau premiwm Clwb Selar erbyn y Nadolig. Dyma fydd y pumed gyfrol o’r blwyddlyfr, gyda’r gyntaf yn cael ei chyhoeddi yn 2020...

Nadolig llawen pawb! Pwy fu'n pori trwy eu copi o flwyddlyfr Y Selar ar ddydd Nadolig?
Mae nifer cyfyngedig o gopïau ar ôl i unrhyw aelodau premiwm newydd o Glwb Selar, ynghyd â'r danteithion eraill sy'n eich cyrraedd ar hap!

3 months ago 0 0 0 0
Advertisement
Preview
Mellt yn ail-ymweld â chaneuon a gollwyd ar EP newydd Mae EP newydd y band o Aberystwyth, Mellt, allan ar label Grwndi Records ers 12 Rhagfyr, a dywed y band  ei fod yn gyfle i ail-ymweld â chaneuon sydd wedi llithro trwy’r rhwyd cyn hyn.  ‘Big Bird’ ydy...

EP newydd Mellt yn myfyryio ar eu magwraeth

3 months ago 0 0 0 0
Enwa'r Gân - Tokomololo. - wedi'w gefnogi gan PYST/S4C
Enwa'r Gân - Tokomololo. - wedi'w gefnogi gan PYST/S4C YouTube video by Tokomololo

Pa fideos sydd ar goll o'n rhestr chwarae fideos cerddoriaeth Cymraeg 2025? Helpwch ni gynnwys pob un sy'n gymwys ar gyfer Gwobrau'r Selar eleni 🙏🏾
www.youtube.com/watch?v=bAas...

3 months ago 0 0 0 0
Preview
Sengl Nadolig Chwaer Mae’r ddeuawd o Aberteifi, Chwaer, wedi rhyddhau eu sengl Nadolig.  ‘Nadolig Gwyn’ ydy enw’r garol Nadoligaidd gan y ddwy chwaer sy’n rhyddhau eu cerddoriaeth trwy label Fflach Cymunedol.  Chwaer yw’r...

Cân Nadolig Gymraeg orau 2025? Barnwch dros ei hunain, ond mae hon yn gynnig neis iawn gan Chwaer

4 months ago 0 0 0 0
Preview
Gwahodd Enwebiadau Gwobrau’r Selar 2025 Mae Y Selar wedi agor yr enwebiadau cyhoeddus ar gyfer Gwobrau’r Selar 2025. Yn ôl yr arfer, mae cyfle i bawb sy’n dilyn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg gynnig enwau ar gyfer yr amrywiaeth o gategorïau. B...

Dim ond deuddydd ar ôl i gynnig eich enwebiadau ar gyfer Gwobrau'r Selar 2025

4 months ago 0 0 0 0
Preview
Blwyddlyfr Y Selar 2025 Mae Blwyddlyfr Y Selar 2025 wrthi’n cael ei argraffu, a bydd yn cyrraedd aelodau premiwm Clwb Selar erbyn y Nadolig. Dyma fydd y pumed gyfrol o’r blwyddlyfr, gyda’r gyntaf yn cael ei chyhoeddi yn 2020...

Blwyddlyfr Y Selar 2026 ar y ffordd i aelodau lwcus Clwb Selar - diolch i bawb am gefnogi a sicrhau bod modd i ni wireddu prosiectau fel hyn 🙏🏾

4 months ago 0 0 0 0