Alun Llwyd Angst gynt a nawr Pyst ac Am yw’r cwmni rwythnos hon. Mae ei weledigaeth e o Gymru hyderus a ffynnianus mor apelgar. Beti a’i Phobl ar BBC Radio Cymru a @bbcsounds.bsky.social
Posts by
Pob hwyl iti Richard!
Dim ond ti fydd ar ôl o’m cyfnod i @bethdimoyn.bsky.social yn dal i’n diddanu a’n cyflwyno i bobl diddorol.
newyddion.s4c.cymru/article/rich...
Yn gwrando ar un o Sarnau ger y Bala a adawodd Cymru dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl i ddechrau busnes datblygu eiddo yng ngwlad Pwyl. Rhys Jones y dyn busnes hynod lwyddiannus sy ag ambell i gyngor ar sut i wella economi ei famwlad. Gwerth gwrando. Beti a’i Phobl ar BBCRadio Cymru a @BBCSounds
Here's something for the Irish Times in which I try to explain what's about to happen in Welsh politics. Hope it's of interest.
www.irishtimes.com/world/uk/202...
Yr artist (a’r ffliwtydd) Annie Sugunami yw’r cwmni ar Beti a’i Phobl yr wythnos hon - orig fach o fwynhad pur credwch chi fi. Ar @BBCRadioCymru a @bbcsounds.bsky.social
Yn gwrando ar Bethan Rees Roberts yn siarad. (Addysg yn Ysgol Maes Garmon)Mae’n anodd i fi amgyffred yr hyn mae hi wedi neud yn ystod ei gyrfa fel peirannydd cemegol. Anhygoel. Wir yn werth gwrando ar Beti a’i Phobl ar @BBCRadio Cymru a @BBCSounds
Yn gwrando ar Peredur Glyn, arbenigwr ar ieithyddiaeth ac enillydd Daniel Owen Steddfod Wrecsam yn trafod dyfodol y Gymraeg. Mae angen i ni boeni mwy am elfennau eraill sy’n ei bygwth na’r defnydd o fratiaith. Mor ddiddorol ei ddadl. Beti a’i Phobl ar @BBCRadioCymru a @BBCSounds
Dydd Gŵyl Dewi Hapus!
Happy St David's Day!
Y DrCymraeg yw’r cwmni ar Beti a’i Phobl yr wythnos hon. Mae ei frwdfrydedd yn ceisio denu mwy o bobl at yr iaith yn heintus. Mae’n werth gwrando ar Stephen Rule ar @BBCRadioCymru a @bbcsounds.bsky.social
x.com/bbcwalesnews...
“The Rivals” beth yw’r rheiny???😳
@BBCWales
“The Rivals??” Beth?/What?
I thought they were called Yr Eifl.
“Trefor sits beneath the twin peaks of The Rivals - the steep hills that mark the entrance to the northern side of the Llyn Peninsula.”
Ymweliad â Ghana a newidiodd ei bywyd pan gwmpodd mewn cariad â thecstiliau lliwgar y wlad. Defnyddio rheiny i lansio busnes gartre fyddai’n arwain at sefydlu a chynnal ysgol yn Ghana. Ond mae na lawer mwy na hynny i hanes ysbrydoledig y nyrs Mati Roberts. @BBC Radio Cymru a BBC Sounds
Diolch @cathaguamia.bsky.social
Meinir Gwilym yw’r cwmni heno ar Beti a’i Phobl. Cewch fodd i fyw yn gwrando arni yn son am ei phrofiadau fel cantores, cyflwynydd, garddwraig a ie - athronydd. Mae’n onest iawn hefyd wrth drafod y personol. Ar BBC Radio Cymru am 6
Dechrau 2026 â rhaglen arbennig o ddifyr. Ani Glass a’i hanes. Y tiwmor ar ei hymennydd. Melyn fach yn dod i’r byd ac yn hollol fyddar. Beti a’i Phobl ar @BBCRadioCymru nawr ac ar @BBCSounds
Ar Beti a’i Phobl yr wythnos hon - Jane Richardson, prif weithredwr yr Amgueddfa Gen. Mae’n trafod y problemau - prinder arian, adeilad yn mynd a’i ben iddo, a’r lladrad. Ond hefyd y trysorau anhygoel sy’n rhan o’n etifeddiaeth. Ar BBCRadio Cymru.
Fe gefais fodd i fyw yng nghwmni Mari Huws sy’n warden ar Ynys Enlli oherwydd y gallu sy ganddi i ddod â’r lle yn fyw i ni. A’r heriau, yn enwedig ar ôl i Lleucu fach gyrraedd! Wir yn werth gwrando arni.
nawrwww.bbc.co.uk/sounds/play/m002lb1m
Cerys Hafana yn hudolus yn #Aberystwyth neithiwr. Ewch i'w gweld da chi, os cewch gyfle. Sgwrs hynod ddifyr rhyngddi hi a @bethdimoyn.bsky.social dal ar gael yma www.bbc.co.uk/sounds/play/...
Os y’ch chi’n teimlo’n isel weithie dros gyflwr yr iaith (fel fi) wel trowch at Beti a’i Phobl heno. Mae brwdfrydedd y siaradwr newydd Marcus Whitfield a’i waith diflino yn hybu’r iaith a chefnogi siaradwyr newydd eraill yn anhygoel. Gwerth gwrando ar @BBCRadioCymru am 6
Cwmni arbennig iawn heddi ar Beti a’i Phobl. Yr athrylith o gerddor a phianydd o Bentrebychan Cawn ei hanes o fod yn blentyn deg oed yn dwli ar Wagner ac yn diddanu ei gyd ddisgyblion yn ysgol IDHooson i chware yn rhai o neuaddau pwysica’r byd fel Carnegie Hall. Llŷr Williams @BBCRadioCymru
am 6
Perffeithrwydd natur
Nawr ar B a’i Phobl - Iwan Steffan. Mae’n ddyn ifanc talentog ac yn adnabyddus yn Lerpwl oherwydd ei waith ar y wê. Ond dyw e ddim heb ei broblemau ac mae’n eu trafod yn gwbwl agored. Mae’n dwli ar ei 2 chwaer gyda llaw! Fe ges i awren fach bleserus yn ei gwmni. Cewch chithe hefyd. @BBCRadio Cymru
Artist a chyn berchennog siopau dillad. Mae ei hanesion am ei magwraeth ym Maldwyn yn llawn swyn. A’i phrofiad fel menyw fusnes ar ol cyfnod anodd yn bersonol yn agoriad llygad. Kathy Gittins ar @BBCRadioCymru am 6
Fe ddaeth hwn/hon i ddweud helo heddiw. Mae’n ymwelydd cyson yn y nos ond fe fentrodd liw dydd! Croeso! Mor hardd ( ond dw i ddim yn cadw ieir!)
Fe ddaeth hwn/hon i ddweud helo heddiw. Mae’n ymwelydd cyson yn y nos ond fe fentrodd liw dydd! Croeso! Mor hardd ( ond dw i ddim yn cadw ieir!)
Artist a chyn berchennog siopau dillad. Mae ei hanesion am ei magwraeth ym Maldwyn yn llawn swyn. A’i phrofiad fel menyw fusnes ar ol cyfnod anodd yn bersonol yn agoriad llygad. Kathy Gittins ar @BBCRadioCymru am 6
Mae’r sgwrs heno yn agos at fy nghalon i gan mai Rhian Bowen-Davies, @comisiwnphcymru.bsky.social yw’r cwmni! Mae hi yn dda - ac yn benderfynol o fynd i’r afael â’r holl broblemau sy’n ein wynebu ni’r “oldies” y dyddie ma!
“Rockets, missiles and space flights”oedd hoff lyfr yr arbenigwr ar yr economi - Dr Eurfyl ap Gwilym - pan oedd yn blentyn ac fe lwyddodd i gynhyrchu “bom”!
Ddegawdau wedyn fe “fomiodd” Jeremy Paxman! Fe gewch glywed yr hanes i gyd ar Beti a’i Phobl ar @BBCRadio Cymru am 6