Advertisement · 728 × 90

Posts by Eisteddfod

Dwi’n falch eich bod chi wedi cael lle. Gobeithio y cewch chi wythnos wych!

1 year ago 1 0 0 0

Mae’r carafanau ar dudalen flaen y wefan. Ydych chi wedi llwyddo i gael lle i aros? Diolch.

1 year ago 0 0 1 0

Ond mae dolen carafans ar y brif dudalen ers dydd Gwener a dolen i’r ffurflen archebu yno ers ben bore ymhell cyn iddi agor. Efallai eich bod chi’n edrych ar gopi ‘cached’ yn hytrach na chopi byw.

1 year ago 0 0 0 0

Mae dolen wedi bod o dudalen flaen ein gwefan ers beb bore ma - ymhell cyn amser agor y ffurflen. Fe hola i’r tîm am eich cwestiynau eraill. Anfonwch eich cyfeiriad ebost at gwyb@eisteddfod.cymry er mwyn iddyn nhw eich ateb. Diolch

1 year ago 0 0 2 0

Beth yw’r broblem ogydd?

1 year ago 0 0 1 0
Post image

Mis i fynd tan orymdaith fawr Gŵyl Ddewi yn Wrecsam. Dewch i ddathlu a chefnogi

1 year ago 2 0 0 0
Post image Post image

Cyfleoedd arlwyo
#steddfod2025
ar gael nawr!
Rhagor yma ▶️ eisteddfod.cymru/yrwyl/2025/c...
Gwnewch gais i ddod i werthu bwyd yn Wrecsam
Dyddiad cau 12:00, 17 Chwefror

1 year ago 1 0 0 0

Diolch o galon am y gefnogaeth | Thank you so much for your support

1 year ago 2 0 0 0
Post image

⭐Swydd newydd!⭐
Rydyn ni'n chwilio am Uwch-reolwr Gweithrediadau a Chynhyrchu i ymuno â'r tîm. Cyfle gwych i arwain ein tîm technegol a threfniadau ymarferol yr ŵyl, gyda chyflog o hyd at £52,500.
Manylion yma ▶️ bit.ly/40c6pw9
Dyddiad cau: 23 Ionawr.
Dewch i weithio gyda ni!

1 year ago 1 1 0 0
Post image Post image

Beth am ymuno gyda chôr #steddfod2025?
Dewch ar daith sy'n mynd at galon cymuned Wrecsam, a byddwch yn rhan o stori llawn gobaith, emosiwn, a ffwtbol gan Manon Steffan Ros ac Osian Williams
Manylion a ffurflen gofrestru yma: bit.ly/4gX9qI5

1 year ago 0 1 0 0
Advertisement
Post image

Dyddiad cau Medal y Cyfansoddwr #steddfod2025 am 10:00 yfory!
Rhagor am y gystadleuaeth a manylion cystadlu yma ▶️https://eisteddfod.cymru/node/3964

1 year ago 0 0 0 0
Post image

Diolch i bawb sydd wedi prynu tocyn i gig Huw Chiswell yng Nghlwb y Bont. Mae pob tocyn wedi gwerthu. Beth am ddod draw i gymdeithasu a gwylio’r gig ar y sgrin yn y bar bach ar ôl diwrnod o siopa, bwyta a chefnogi busnesau Pontypridd? Bydd bwced codi arian i gronfa’r llifogydd wrth y bar

1 year ago 1 1 0 0
Post image

Cyfle i godi arian i helpu cymuned Pontypridd yn dilyn y llifogydd a diolch i bawb am y croeso eleni mewn noson gyda Huw Chiswell a Catrin Herbert. Dewch yn llu i Bontypridd am y diwrnod, i fwyta, siopa a chloi’r noson yng Nghlwb y Bont. Holl elw’r noson yn mynd i gronfa llifogydd Pontypridd

1 year ago 4 2 0 0
Post image

Braf cynnal cyfarfod cyntaf pwyllgor gwaith #steddfod2026 yng Nghanolfan Hermon heno. Edrych ymlaen at y misoedd nesaf o gydweithio

1 year ago 4 0 0 0
Post image

Mae dyddiad cau Medal Ryddiaith #steddfod2025 wedi symud i 12:00 (hanner dydd) ddydd Llun 2 Rhagfyr.
Cofiwch uwchlwytho eich cyfrol mewn pryd!
Rhagor yma ➡️ eisteddfod.cymru/yrwyl/2025/c...

1 year ago 1 1 0 0

Meddwl cymaint am bawb ym Mhontypridd a gweddill Rhondda Cynon Taf y bore ‘ma wrth weld lluniau o’r llifogydd ar draws yr ardal. Mae mor drist gweld y parc, strydoedd a’r busnesau a ddangosodd gymaint o groeso i ni i gyd o dan ddŵr. Cadwch yn ddiogel bawb ❤️

1 year ago 8 1 0 0
Post image

Cofiwch gefnogi digwyddiadau Bore Hoffi Coffi dros y sul! Rydyn ni’n casglu arian at gronfa leol #steddfod2025 ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi trefnu digwyddiad

1 year ago 0 0 0 0
Post image

Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod eleni yn Rhondda Cynon Taf. Braf iawn cael cydweithio gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf | Helo Blod | Cyngor RCT ac Ymbweru Bro ar brosiect newydd sbon

eisteddfod.cymru/node/3962

1 year ago 2 0 0 0
Advertisement
Post image

Llai na phythefnos i fynd tan ddyddiad cau cystadleuaeth Medal Ryddiaith #steddfod2025!
Dyddiad cau: 12:00 (hanner dydd) ddydd Llun 2 Rhagfyr
Rhagor👉https://eisteddfod.cymru/yrwyl/2025/cystadlu/713
Pob lwc!

1 year ago 2 2 0 0
Post image Post image Post image Post image

Anodd credu fod 'na 100 diwrnod ers #steddfod2024. Diolch, Rhondda Cynon Taf am chwip o 'steddfod ❤️

1 year ago 1 0 0 0
Crowds watching band on stage with purple lighting

Crowds watching band on stage with purple lighting

Harpist and violinist performing in dimmed lighting

Harpist and violinist performing in dimmed lighting

Croeds watching band on large stage with blue lighting

Croeds watching band on large stage with blue lighting

Crowds watching candlelit concert in bandstand in the open air

Crowds watching candlelit concert in bandstand in the open air

Dewch i ail-fyw #steddfod2024 mewn rhaglen arbennig o uchafbwyntiau o lwyfannau’r ŵyl
20:30 nos Sadwrn | S4C | S4C Clic | BBC iPlayer

1 year ago 3 2 0 0