Advertisement · 728 × 90

Posts by Mererid Gwyn

Dim ond deuddydd sydd ers cnebrwn Mam annwyl ag oedd y gwasanaeth yn gysur. Margaret Mary oedd ei henw a gwirionodd yn lân yn y 50au’n Ysgol Blaenau pan ddywedodd ei hathro Dafydd Orwig mai Mererid Mair oedd ei henw yn Gymraeg. A chyn iddi briodi yn rhyfedd iawn Williams oedd hithau!

1 month ago 0 0 1 0
Post image

Ddeuddydd ar ôl cnebrwn Mam annwyl moment arbennig yn y fynwent i Gwen a fi yn arbennig o ystyried mai’r linell o emyn oedd ar gefn y daflen oedd:
“Rwy’n gweld yr enfys yn y glaw”

1 month ago 1 0 0 0

@mereridmair.bsky.social Hoff iawn o’r gwasanaeth ar y radio heddiw. Diolch.

1 month ago 1 1 1 0
Post image

Hyfryd ym Morfa Bychan

1 year ago 0 0 0 0

Hollol wych. Newydd wrando’r ddau episod o’ch sgwrs gyda Noel a Sian. Arbennig.

1 year ago 2 0 1 1

Proud. Loved this season.

1 year ago 2 0 0 0

Pawb yn aros yn rhywle ar eu pennau eu hunain tu allan i’r Castell dwi di gael ar ddeall ag yn dod nol yn y bore.

1 year ago 0 0 1 0

Mae pawb yn mynd ffwrdd i’w llety unigol eu hunain dros nos ag felly ddim yn y Castell i weld dim.

1 year ago 0 0 1 0

Neis câl hi’n braf.

1 year ago 1 0 0 0
Advertisement

😂

1 year ago 0 0 0 0

Hên bryd.

1 year ago 4 0 0 0

Y ddau arall oedd yn yr un ‘stafell â fi ond dim fi!

1 year ago 0 0 1 0

Noson ardderchog hefo @siongoronwy.bsky.social yn Theatr Fach Llangefni yn gwylio’r wyresi/nithod yn y Pantomeim Jac a’r Jereniym. Llwyth o hwyl.

1 year ago 4 1 0 0

Cwestiwn da.

1 year ago 0 0 0 0

Symio fyny’r hurtrwydd i’r dim! Er dwinne ‘di ildio i “deal” 1/2 pris am Alecsa o’r diwedd. #AngylionMagiMw yn meddwl gallai fod yn ddefnyddiol ddiddanu Mam. Mor hoff o gerddoriaeth a haws dod o hyd i ganeuon at ei dant fel hyn. Ag wrth gwrs ma ganddi ei chanwr opra personol @siongoronwy 🤣

1 year ago 0 0 0 0
Post image

Argoeli’n fwy gobeithiol y caiff #AngylionMagiMw fynd am ein cinio ‘dolig cynnar i’r Llew Gwyn. Niwl iasoer ddoe wedi diflannu.

1 year ago 1 0 0 0
Advertisement

😁

1 year ago 0 0 0 0

Y golau yn taro yn gynnes ar y tirwedd a’r adeiladau.

1 year ago 1 0 0 0

Dyna draeth hyfryd.

1 year ago 1 0 0 0

Diolch am ddysgu ein iaith.

1 year ago 1 0 1 0

Dyna un o’r pethau da am y gaeaf - eistedd o flaen tanllwyth o dân.

1 year ago 0 0 0 0

Ew am fore oer. Wastad yn pan ma nghar i angen mynd am MOT. Diolch am @siongoronwy.bsky.social fynd â fo lawr wir. Ma niwl y llyn yn y dre yn mynd drwyddai fwy na niwl mynydd yn y topie ‘ma! Gan obeithio bydd yr heulwen torri trwodd cyn hir.

1 year ago 1 0 0 0

Dwi’n gallu arogli’r awyr iach yne jyst drwy edrych ar y lluniau. Dyne ardal arall hynod dlws a’r lluniau yn dal eu harddwch.

1 year ago 1 0 0 0

Yden. Mae hi yn sir hynod hardd. Oedden ni dweud run peth wrth deithio gyda llyn Tegid o’r dre am gyfeiriad Dolgellau ddoe. Er ar stepen ein drws byth yn blino ar yr olygfa. A ma hi’n wahanol o ddydd i ddydd neu o few diwrnod hydnoed dibynnu ar y tywydd, ansawdd y golau ag ati.

1 year ago 1 0 1 0

Ffwjin grêt yma!

1 year ago 0 0 0 0

Hyfryd.

1 year ago 0 0 1 0
Advertisement

Pnawn bendigedig gydag @siongoronwy.bsky.social a Mam ddoe ar ein ffordd at y deintydd yn Port. Gan ei bod mor braf aethom y ffordd hir rownd trwy Bermo a Harlech. Mae Bermo yn hyfryd yn y gaeaf a’r golygfeydd o’r traeth gymaint gwell heb yr holl geir a phobl a gwynt y môr yn adfywio #AngylionMagiMw

1 year ago 1 0 0 0

Yndi mae’n ardderchog. Dwi wedi cael pleser mawr o wrando’r Llyfrau llafar dros y blynyddoedd.

1 year ago 0 0 0 0