Am 5 heno (Ebrill 19) ar BBC RadioCymru
ymweliad ag Archifau Bangor @archpbu.bsky.social i son am waith archifydd efo Elen Simpson, Gwyn Williams a Claire Lober a'r cyn archifydd Einion Thomas. Yna yr arlunydd James Dickson Innes efo JonGower a llyfr rhyfeddol Richard Gwyn gynt o Brifysgol Caerdydd
Posts by
Glywsoch chi ein hawdur, @wigs24.bsky.social, yn trafod ei gyfrol 'Ynysoedd Gobaith' gyda @deitomos.bsky.social ar Radio Cymru nos Sul? Bu'n ystyried sut y gallwn ddefnyddio syniadau iwtopaidd o'r gorffennol i ysbrydoli'r dyfodol.
Gwrandewch eto 👇
www.bbc.co.uk/sounds/play/...
Am 5 heno {05/04] cwmni Ffion Mair Jones
o'r Ganolfan Uwchefrydiau a hanes Angharad Llwyd.
Robert Rhys a'r bardd Alun (John Blackwell) Llyfrau Melin Bapur
Hefyd Llion Wigley @wigs24 a Ynysoedd Gobaith, sy'n son am fentrau Iwtopaidd @GwasgPrifCymru
Mae Plaid Cymru ar y blaen - ond dyw Reform ddim ymhell ar ei hôl hi.
Rhaid i Blaid Cymru fod y blaid fwyaf i guro Reform.
Rhaid atal Reform rhag cael eu dwylo ar ein gwlad.
Pleidleisiwch Blaid Cymru ar 7 Mai am arweinyddiaeth newydd a fydd wastad yn sefyll i fyny dros Gymru.
Choose new leadership for Wales. Choose hope. Choose Plaid Cymru 🏴
Dewiswch arweinyddiaeth newydd i Gymru. Dewiswch obaith. Dewiswch Plaid Cymru 🏴
Want to help stop Reform and stand up for Wales? 🫡🏴
It can be as easy as displaying a poster in your window!
Find out how you can help ➡️ partyof.wales/volunteer
Pythefnos i heddiw bydd lansiad Llyfr Agored ym Mhalas Print, Caernarfom. Dewch yn llu! Buaswn yn gwerthfawrogi eich cwmni (a’ch cwestiynau, os byddwch wedi darllen y gyfrol yn y cyfamser) yn fawr!
Yn gwrando ar un o Sarnau ger y Bala a adawodd Cymru dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl i ddechrau busnes datblygu eiddo yng ngwlad Pwyl. Rhys Jones y dyn busnes hynod lwyddiannus sy ag ambell i gyngor ar sut i wella economi ei famwlad. Gwerth gwrando. Beti a’i Phobl ar BBCRadio Cymru a @BBCSounds
Tony ac Aloma sydd ar glawr rhifyn Mawrth i nodi marwolaeth ddiweddar Tony Jones. Y tu mewn i gloriau’r rhifyn, Dafydd Iwan a Graham Jones sy’n coffáu’r canwr o Fôn, gan fyfyrio ar ei arwyddocâd i gerddoriaeth bop Cymru a’i ddawn fel canwr a saer geiriau. 🎙️
Diolch i BBC Cymru am lun y clawr.
🌼 Mae angen i Gymru ‘floeddio'n uwch’ fel cenedl meddai Rhun ap Iorwerth wrth gynhadledd Plaid Cymru yng Nghasnewydd
Welsh icon Michael Sheen has declared his support for Plaid Cymru ahead of May's Senedd election, saying the country is undergoing a ‘huge transformation’
Two women smiling together with Welsh text promoting a new release.
Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r bardd a’r awdur Sioned Erin Hughes.
Yn y bennod mae Erin yn trafod ei diffyg diddordeb mewn llyfrau yn blentyn, effaith a dylanwad sgwennu personol a hunangofiannau ar ei bywyd a’r angen i ddarllen gyda phensil yn ei llaw.
🔗 www.ambobdim.cymru/en/profile-c...
Darn amserol gan Gerallt Llewelyn Jones, cyfarwyddwr Morlais- cynllun ynni llanw @menter_mon -ar beth all cynlluniau ynni gwynt ei gynnig i gymunedau Cymru. Daw hyn yn dilyn cyhoeddiadau diweddar am ddau gynllun newydd oddi ar arfordir Cymru. 🌊 🔗 barn.cymru #MaterionYMis #SectorYnniGwyrdd
Mae #ErthyglauLlafar parhau! Mis yma, mae’r cyfranwyr sy’n darllen yn cynnwys👉Elinor Wyn Reynolds, Mared Gwyn, Iwan Roberts, Simon Brooks ac Angharad Tomos. Diolch yn fawr i chi ac i #llyfraullafar yn y de a #ChymdeithasDeillionyGogledd am ein helpu! 🙏 Rhannwch, a helpwch ni i ledaenu’r gair!
Darllenwch Barn yn unrhyw le! Ewch draw i’n gwefan i bori, a thanysgrifio am flwyddyn o gynnwys difyr! 🔗 barn.cymru
Tameidiau blasu o bob erthygl, a dwy erthygl gyfan yn rhad ac am ddim. £50 am brint a digidol, a £35 am ddigidol yn unig
#darllenamddim #Barnyndyboced #tanysgrifio
Yn rhifyn Chwefror, mae Menna Baines yn holi’r artist tecstiliau Hâf Weighton am ei harddangosfa newydd a hefyd yn rhoi sylw i Noah Bakour, gwneuthurwr ffilm ifanc o Syria sydd wedi cydweithio gyda Hâf ar y prosiect. Canolfan Grefft Rhuthun tan 22 Mawrth.
Pasiodd Mesur Ystad y Goron Plaid Cymru yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ddiweddar.
Mae nawr angen i Lywodraeth y DU wneud amser iddo yn Nhŷ’r Cyffredin.
Os ydych chi’n credu y dylai adnoddau naturiol Cymru fod yn nwylo pobl Cymru, anogwch eich AS i alw am amser seneddol i'r Mesur hwn.
Tua’r de try’r da duon - i wyneb
haul Ionawr yn fodlon
mewn ffordd osgeiddig ddigon
ar fore oer ar y fron.
Yn rhifyn Chwefror, mae Menna Baines yn holi’r artist tecstiliau Hâf Weighton, ac yn rhoi sylw i Noah Bakour, gwneuthurwr ffilm ifanc o Syria a ddaeth i Gymru fel ffoadur ac sydd wedi cydweithio gyda Hâf ar ei phrosiect diweddaraf - Y Stryd Fawr.
Yng Nghanolfan Grefft Rhuthun tan 22 Mawrth. 🖼️ 🎥
Dathlu gwaith y bardd Vernon Jones
Dathlu gwaith y bardd Vernon Jones. Cymdeithas Lenyddol y Garn, Bow Street. 20 Chwefror am 7.30
Never before have I read a book that summed up the hurt and shame, the fear of being ostracised and equated with the most depraved criminals that gay men endured so accurately and poetically. A vital haunting novel worthy of all its praise ✍️ Stephen Price
Pwy ŵyr sut gall fod briallu’r gwanwyn
yn gwenu Fis Rhagfyr?
Pa gyffro gwallgo a’u gyrr,
diniweited eu natur?
Nos o goed a chysgodion - ymwelwyr
dan gymylau llwydion
efo’r hwyr yn crwydro’r fron
yn dawel: y da duon.
Llinellau cerddi Beirdd y Tywysogion yn nhrefn yr wyddor / lines from the poems of the Poets of the Princes, in alphabetical order. @yganolfangeltaidd.bsky.social
www.geiriadura.cymru/post/beirdd-...
✏️📚 ‘Cyfle i ddathlu barddoniaeth a beirdd’
Fe gafodd wyth o feirdd gan gynnwys Eirug Salisbury a Gruffudd Antur eu cloi yng Nghastell Aberteifi dros nos mewn cystadleuaeth barddoni
Ymson Ysgrifennydd Cartref
Mae hawliau hyd yr ymylon i bawb
o ryw bobol estron
Pawb a’i hawl? Fy hawl yw hon:
yr hawl i fod yn greulon.
Doed dydd y caffo’r Goron - reoli
heb ryw hawliau gwirion;
ond un hawl a gadwn, hon:
Yr hawl i fod yn greulon.
Two men smiling during a video call, with Welsh text overlay reading “Pennod 74 Hiraeth am Fôn: Goronwy Owen” and a circular logo that says “Yr Hen Iaith
Pennod 74 – Hiraeth am Fôn: Goronwy Owen @yrheniaith.bsky.social
Caiff Richard Wyn Jones ragor o hanes llenyddol ei fro enedigol yn y bennod hon wrth i'r ddau drafod Goronwy Owen, bardd enwocaf Ynys Môn.
Gwyliwch a gwrandewch nawr: www.ambobdim.cymru/profile-cont...
A’u higam-ogam fflamgoch
yn darfod yn gawod goch,
dydd barn, goeden fasarn fach,
yw dydd olaf dy ddeiliach.
We’ll be starting our reading circle this coming Tuesday with Virginia Woolf’s Orlando and a hikayat by Sa’adi Shirazi.
I still have a few spots available, which I’m happy to offer to readers outside Balochistan on a first-come, first-served basis.
Please feel free to spread the word!