Advertisement · 728 × 90

Posts by Cymdeithas yr Iaith

Post image

Farage yn ymweld ymweliad â Merthyr Tydfil heddiw ...

Beth wyt ti'n ei wneud yng Nghymru, Nigel? Dywedais di nad oes dal beth all ddigwydd yng nghanol Cymry sy'n siarad eu "hiaith estron"🤔❌

golwg.360.cymru/newyddion/21...

2 days ago 2 0 0 0

Cofrestru i Bleidleisio:

📆 Erbyn 20 Ebrill
🙋 Os ydych chi dros 16 sy'n byw yng Nghymru
🪪 Nid oes angen ID i bleidleisio ar y diwrnod, ond rhaid i chi fod wedi cofrestru

Manylion y Rali:

📆 4 Gorffennaf
📍 Stadiwm Y Traeth, Porthmadog
⏰️ 2yh

4 days ago 0 0 0 0
Post image

📣 Codwch eich llais trwy bleidleisio yn Etholiad y Senedd ar 7 Mai, ac eto trwy fynychu rali 'Troi'r Llanw dros y Gymraeg' i bwyso ar y llywodraeth newydd i weithredu 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

#Senedd2026 #NYCAW

4 days ago 1 1 1 0
Post image

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi ymgyrch TUC Cymru yn erbyn y Dde Eithafol‼️

Yng Nghymru, rydyn ni’n sefyll ar ein traed ac yn dweud ein dweud pan nad yw rhywbeth yn
iawn. Unwch yn erbyn casineb ac ymunwch ag ymgyrch United Cymru❌

#UnitedCymru 🤝

1 week ago 5 3 0 0
Video

Dyma ein Cadeirydd, Owain Meirion, yn siarad ar Newyddion S4C ddoe am Rheol 182 diwrnod, ac effaith ail gartrefi ar ddyfodol y Gymraeg 🏡🪧✊🏼

#cymdeithasyriaith #nidywcymruarwerth

1 week ago 1 1 0 0

🔗Mwy o wybodaeth:

👉 cymdeithas.cymru/newyddion/pl...

👉 golwg.360.cymru/chwaraeon/ch...

2 weeks ago 0 0 0 0
Post image

10 mlynedd ers i Safonau’r Gymraeg ddod yn weithredol, dydy plant Cymru ddim yn derbyn gwersi nofio yn Gymraeg fel y dylent o hyd😡

⛔️ Dim mwy o esgusodion. Dim mwy o oedi! Mae’n rhaid i’r Comisiynydd ddefnyddio ei phwerau gorfodi a sicrhau hawliau plant a phobl ifanc Cymru i’r Gymraeg

#Cymraeg

2 weeks ago 0 0 1 0
Post image

📣 Mae Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi TUC Cymru (United Cymru) yn erbyn y Dde Eithafol!

I’r rheini sy’n dweud mai problem yn hytrach na chryfder yw ein gwahaniaethau, dyma ein
hymateb:

Mae amrywiaeth yn cryfhau Cymru🤝🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

#UnitedCymru

3 weeks ago 6 5 0 0
Advertisement
Post image

📖 YFORY - Lansiad Cyfrol Ddathlu Gareth Miles, ‘O’r Gwylltio, Gweithredu’

Bydd cyfle i ddathlu ymgyrchu a gweledigaeth hirsefydlog Gareth Miles ar gyfer Cymru well🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

🗓️ Dydd Sadwrn, 28 Mawrth
⏰ 2yp
📍 Capel y Groes, Wrecsam

Croeso cynnes i bawb!

3 weeks ago 0 0 0 0
Post image

Rydyn ni’n cefnogi ymgyrch rhieni dros ysgol Gymraeg newydd i wasanaethu plant De Caerdydd📣

🏫 Os ydych chi’n cytuno bod rhaid cael ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Ne, Gogledd, Dwyrain a Gorllewin y ddinas, ymatebwch i ymgynghoriad y cyngor erbyn fory i ddweud hynny!

👉 decaerdydd.cymru

3 weeks ago 2 0 0 0

Mwy fan hyn:
👉 cymdeithas.cymru/newyddion/gw...
👉 golwg.360.cymru/newyddion/gw...
👉 www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...

3 weeks ago 0 0 0 0
Post image Post image

Rydyn ni’n croesawu argymhellion adroddiad ‘Cyrraedd pob cymuned, cryfhau’r Gymraeg’ y Comisiwn Cymunedau Cymraeg🙌

❗Mae’n allweddol i ddyfodol y Gymraeg fod llywodraeth nesaf Cymru yn eu gweithredu wedi’r etholiad ym mis Mai, er mwyn rhoi’r Gymraeg i bawb sy’n byw yng Nghymru.

3 weeks ago 4 4 1 0
Video

📣 Rydyn ni'n dod at ein gilydd i sefyll dros ein cymuned, ac yn erbyn xenophobia ‼️✊

Ymaelodwch, i ddangos beth sy'n bosibl 👉 cymdeithas.cymru/ymaelodi

4 weeks ago 12 8 0 0
Post image

📣 Mae Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi ymgyrch TUC Cymru yn erbyn y Dde Eithafol!

Mae croeso i bawb yng Nghymru🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Gwnewch safiad dros undod heddiw ac ymunwch ag ymgyrch United Cymru✊️

#UnitedCymru

1 month ago 9 5 0 0
Post image

📖 Lansiad Cyfrol Ddathlu Gareth Miles, ‘O’r Gwylltio, Gweithredu’

Bydd cyfle i ddathlu ymgyrchu a gweledigaeth hirsefydlog Gareth Miles ar gyfer Cymru well🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

🗓️ Dydd Sadwrn, 28 Mawrth
⏰ 2yp
📍 Capel y Groes, Wrecsam

Croeso cynnes i bawb!

1 month ago 1 1 0 0
Preview
Report reveals 'lack of attention to Welsh language' in healthcare services Stephen Price Welsh language campaigners have raised concerns about the quality and safety of services for Welsh speakers in health, social services, and social care across Wales. According to Cymdeit...

Darllenwch yr erthygl isod am adroddiad newydd gan Grŵp Iechyd a Lles y Gymdeithas sy’n datgelu diffyg sylw i’r Gymraeg yng ngwaith strategol Perfformiad a Gwella GIG Cymru👇🏼

🔗 nation.cymru/news/report-...

🩺👩🏻‍⚕️🏥

1 month ago 0 0 0 0
Advertisement
Post image Post image

Mae hyn yn golygu bod:

❌ Perygl i ansawdd a diogelwch gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg
❌ Effaith niweidiol ar barodrwydd staff GIG i ddefnyddio eu Cymraeg

Mae sicrhau darpariaeth Gymraeg o fewn gwasanaethau gofal iechyd yn fater o ansawdd a diogelwch i siaradwyr Cymraeg‼️

1 month ago 0 0 0 0
Post image Post image

📢 Mae adroddiad newydd gan Grŵp Iechyd a Lles Cymdeithas yr Iaith yn datgelu diffyg sylw i’r Gymraeg ac i egwyddorion ‘Mwy na Geiriau’ yng ngwaith strategol Perfformiad a Gwella GIG Cymru, gan godi pryderon difrifol am ansawdd a diogelwch gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg🩺

#Cymraeg #MwyNaGeiriau👩‍⚕️ 🏥

1 month ago 1 0 1 0
Preview
Reform yn deall dim am Gymru | Cymdeithas yr Iaith Reform yn deall dim am Gymru

I ddarllen mwy 🔗 cymdeithas.cymru/newyddion/re...

1 month ago 1 1 0 0
Post image

📄 Cyhoeddodd Reform eu maniffesto heddiw, sy'n cynnwys cynlluniau i ddiddymu targed y miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050🗣️ Dyma'r unig bolisi sy'n ymwneud â'r Gymraeg❌

Byddai’r Gymraeg a'n cymunedau dan berygl enfawr dan lywodraeth Reform UK⚠️

#Cymraeg #LlywodraethCymru #Cymru

1 month ago 8 2 1 0
Post image

💔 Heddiw, mae Cyngor Sir Gâr wedi cymeradwyo cau Ysgol Llansteffan.

Nid oedd un gair o blaid yr ysgol yn y siambr. Mae hyn yn dangos diffyg democrataidd, sy’n gwneud i bobl gwestiynu beth yw pwynt yr holl broses?😔

#CefnogwchYsgolionCymraeg 💚

1 month ago 2 0 0 0
Post image

✨️Gwnewch y pethau bychain ac ymaelodwch â Cymdeithas yr Iaith heddiw 👉 cymdeithas.cymru/ymaelodi

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

1 month ago 3 1 0 0
Video

Bydd y Cyngor yn cyhoeddi ei benderfyniad terfynol wythnos nesaf – gyda’r bwriad o’i gau’r ysgol ddiwedd Awst eleni❌

📽️ Dyma gyfweliad Bethan, ein Swyddog Ymgyrchoedd, ar raglen y Byd ar Bedwar yn trafod y mater👏🏼

1 month ago 0 0 0 0
Post image

📑 Mae Cyngor Sir Gar yn wynebu ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg yn sgil cwyn nad oedd y Cyngor wedi ystyried yn llawn yr effaith fydd cau Ysgol Llansteffan yn cael ar y Gymraeg yn yr ardal.

1 month ago 1 0 1 0

Bydd y Cabinet yn rhoi’r penderfyniad terfynol yn y Cyngor Llawn wythnos nesaf, lle gobeithiwn y rhoddir llais digonol i’r rhieni a’r gymuned, yn wahanol i drafodaeth unochrog heddiw🏫

1 month ago 1 0 0 0
Preview
Cabinet Cyngor Sir yn argymell gweithredu hysbysiad i gau Ysgol Llansteffan Mae Cabinet Cyngor Sir Gâr wedi cytuno i argymell bod y Cyngor Llawn yn gweithredu’r Hysbysiad i Gau Ysgol Llansteffan. Roedd llythyr gan rieni ac athrawon yr ysgol yn galw am atal y broses oherwydd: ...

Mae Cabinet Cyngor Sir Gâr yn argymell gweithredu hysbysiad i gau Ysgol Llansteffan❌

Nid oedd unrhyw lais yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor Sir bore ‘ma dros yr ysgol, ac mae lle i gredu fod y mater wedi’i benderfynu ymlaen llaw🧐

1 month ago 2 2 1 0
Advertisement
Post image

📢 Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd a Môn – Cymdeithas yr Iaith

📅 Dydd Mercher, 18 Chwefror
🕖 7yh
📍 Palas Print, Caernarfon, LL55 1RR / Ar-lein

Dewch yn llu!

2 months ago 1 1 0 0
Post image

✨ Sesiwn Ar-lein i Ddysgwyr: O Fanceinion i'r Orsedd✨

Cyfle i sgwrsio â Simon Chandler am ei daith dysgu Cymraeg a sut ddaeth yn fardd ac yn awdur!

📅 Nos Fawrth, 24 Chwefror
⏰ 7-8yh
📍 Zoom

Am ddolen i ymuno, cysylltwch â post@cymdeithas.cymru

2 months ago 1 2 0 0
Post image Post image

Dewch draw i’n stondin ni yn y digwyddiad i ddathlu Dydd Miwsig Cymru - YFORY🎶

📅 Dydd Sadwrn, 14 Chwefror
⏰ 10yb - 9yh
📍 Tŷ Pawb, Wrecsam

2 months ago 2 0 0 0

Mwy o wybodaeth👇🏼

Newyddion ar y wefan: cymdeithas.cymru/newyddion/di...

Erthygl Golwg: golwg.360.cymru/celfyddydau/...

Erthygl Nation: nation.cymru/news/campaig...

2 months ago 0 0 0 0