Gwych bod yn nigwyddiad Farchnad @Senedd.Cymru heddiw yn hyrwyddo Maniffesto ColegauCymru: Twf, Cyfle a Thegwch cyn #Senedd2026 ⭐
Mae ein #colegau #addysgbellach yn chwarae rhan hanfodol wrth dyfu'r economi, gwella cyfleoedd, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ledled Cymru 🎓📈
✨ Creu colegau lle mae pawb yn perthyn ✨
Rydym yn falch o lansio Siarter Cynefin, dan arweiniad @Colegau.Cymru, gyda #colegau #addysgbellach ledled Cymru 🤝 yn ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnânt.
🔗 Dysgwch fwy: youtu.be/_g_yioSbDtI
Colegau Cymru yn mynd i Bencampwriaethau Cenedlaethol Chwaraeon @aoc-sport.bsky.social 2026 🏆
Cymhwysodd dysgwyr o bob cwr o Gymru ar ôl perfformiadau rhanbarthol cryf - cyflawniad gwych sy'n arddangos y dalent a'r gwaith tîm ar draws y sector #addysgbellach.
🔗 www.colegau.cymru/cy/blog/post...
Diolch i holl Aelodau'r Senedd a ymgeiswyr am weld effaith wirioneddol #AddysgBellach a dathlu thema eleni: #SgiliauiBawb.
@nptcgroup.bsky.social @llandrillomenai.bsky.social @gowercollege.bsky.social
#Senedd2026
Ar #DiwrnodRhyngwladolyMenywod, rydym yn tynnu sylw at waith parhaus ar draws sector #AddysgBellach Cymru i fynd i'r afael â cham-drin menywod a hyrwyddo perthnasoedd parchus.
🔗 Darllenwch fwy: www.colegau.cymru/cy/blog/post...
#IWD2026
Dyna pam mae Maniffesto ColegauCymru ar gyfer #Senedd2026 yn galw am fuddsoddiad cynaliadwy mewn sgiliau ac #AddysgBellach.
🔗 Darllenwch fwy: www.colegau.cymru/cy/blog/post...
Ar gyfer #WythnosColegau2026, rydym yn rhannu neges gan Deio Owen, Llywydd UCM Cymru.
Fel cyn-ddysgwr @llandrillomenai.bsky.social, mae Deio yn myfyrio ar sut agorodd coleg ddrysau iddo - atgof pwerus o effaith #addysgbellach sy’n newid bywydau ledled Cymru.
Wrth i ni ddathlu #WythnosColegau2026, mae'n hanfodol cydnabod y rôl bwerus y mae colegau #addysgbellach yn ei chwarae wrth greu llwybrau, cyfleoedd a chefnogaeth i ddysgwyr ledled Cymru.
Mae colegau ledled Cymru yn dathlu pŵer trawsnewidiol #AddysgBellach fel rhan o #WythnosColegau2026.
Mae thema eleni, Sgiliau i Bawb, yn tynnu sylw at sut mae colegau'n cefnogi dysgwyr o bob oed - o bobl ifanc sy'n dechrau allan i oedolion sy'n ailhyfforddi a phrentisiaid sy'n adeiladu gyrfaoedd.
Lansiad Maniffesto Colegau Cymru gwych heddiw yng Ngholeg Llandrillo.
Diolch i bawb a ymunodd â thrafodaeth mor gadarnhaol ar rôl hanfodol #addysgbellach wrth yrru twf, cyfle a thegwch ar draws Gogledd Cymru.
Diolch i @llandrillomenai.bsky.social am y croeso cynnes.
📢 Lansiad Maniffesto ColegauCymru - Gogledd Cymru
Ymunwch â ni yn y Rhyl ar 12 Chwefror ar gyfer lansiad Twf, Cyfle a Thegwch yng Ngogledd Cymru. Cyfle i ymgeiswyr a rhanddeiliaid y Senedd archwilio rôl hanfodol #AddysgBellach yng Ngogledd Cymru.
Cofrestrwch:
www.eventbrite.co.uk/e/lansiad-ma...
Roeddem yn falch o fynychu Cynhadledd Ryngwladol College Alliance @aoc-info.bsky.social yng Ngholeg Cambria yr wythnos diwethaf, gan ddod ag arweinwyr colegau, llunwyr polisi a phartneriaid ynghyd i archwilio sut y gall #addysgbellach gefnogi dysgwyr, cymunedau ac economïau ar draws ffiniau.
Fe wnaethon ni rannu sut mae colegau #addysgbellach yn cefnogi dysgwyr, gan gynnwys gweithio gyda dynion ifanc a bechgyn i herio naratifau niweidiol a mynd i'r afael â cham-drin menywoda merched ar-lein.
🔗 Dysgwch fwy am ein gwaith yn y maes hwn: www.colegau.cymru/cy/page/tack...
Llais y dysgwr wrth wraidd polisi 👏
Cymerodd dysgwyr #addysgbellach o bob cwr o Gymru le canolog yn y Grŵp Trawsbleidiol olaf Addysg Bellach a Sgiliau yn ystod tymor y @Senedd.Cymru hwn, gan rannu mewnwelediadau gonest ar addysg ôl-16 - o fynediad at ganllawiau i lesiant ac ehangu cyfranogiad.
📢 Lansiad Maniffesto ColegauCymru - Gogledd Cymru
Ymunwch â ni yn y Rhyl ar 12 Chwefror ar gyfer lansiad Twf, Cyfle a Thegwch yng Ngogledd Cymru. Cyfle i ymgeiswyr a rhanddeiliaid y Senedd archwilio rôl hanfodol #AddysgBellach yng Ngogledd Cymru.
Cofrestrwch:
www.eventbrite.co.uk/e/lansiad-ma...
📣 Lleisiau dysgwyr wrth wraidd polisi addysg 📣
Rhannodd dysgwyr #coleg o bob cwr o Gymru eu profiadau bywyd o heriau cyfranogiad mewn #addysgbellach gyda'r Grŵp Trawsbleidiol ar #AddysgBellach a #Sgiliau yn y @Senedd.Cymru ddoe.
🚨 Cyllideb Llywodraeth Cymru mewn perygl o gau dysgwyr allan o'r coleg 🚨
Mewn gwirionedd, gallai toriadau i gyllid #addysgbellach olygu llai o leoedd cwrs a llai o gefnogaeth i ddysgwyr ledled Cymru.
Rydym yn awyddus i sicrhau nad yw rhai o'r cyfleoedd unigryw y mae Taith yn eu cynnig i'r sector #addysgbellach yn cael eu colli; a bod digon o amser yn cael ei gymryd i ystyried y rôl gyflenwol bosibl y gall Taith ei chwarae yn rhaglen Erasmus+.
Roeddem yn falch o glywed y Gweinidog #AddysgBellach ac Uwch, Vikki Howells AS, yn tynnu sylw at y pwysau ariannu difrifol sy'n wynebu #colegau, yng nghyfarfod Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y @senedd.cymru heddiw.
youtu.be/Jx62KktcVJo
Ddoe fe wnaethon ni fynychu digwyddiad @learnworkcymru.bsky.social ar gyfer lansiad eu hadroddiad newydd ar Gynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau i Gymru. Mae'n hanfodol y gallwn gysylltu cyflogaeth, iechyd a sgiliau'n well i gefnogi pobl ledled Cymru i ffynnu mewn gwaith a bywyd
#AddysgBellach #Sgiliau
Falch o fod yng Ngholeg Gwent ddoe i gychwyn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK. Am y tro cyntaf, mae Cymru’n cynnal y digwyddiad bwysig hwn gan arddangos y rôl hanfodol y mae #AddysgBellach yn ei chwarae wrth roi’r #sgiliau technegol a chyflogadwyedd sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo
Heddiw yw #DiwrnodRhubanGwyn.
Darllenwch mwy am sut mae #colegau #addysgbellach ledled Cymru yn uno i fynd i'r afael â cham-drin menywod a merched a hyrwyddo perthnasoedd parchus.
👉 www.colegau.cymru/cy/blog/post...
Rydym yn falch o gefnogi’r ymgyrch #DefnyddiaDyGymraeg! Mae defnyddio’r Gymraeg yn rhan o’n bywyd bob dydd - yn y gwaith, yn y coleg, gyda’n ffrindiau. Dewch i ni ddefnyddio’r iaith sydd gennym.
#Cymraeg #AddysgBellach
🔗 Darllenwch erthygl David: Punching above our weight: Wales’ opportunity to build a skills-based economy
www.iwa.wales/agenda/2025/...
#Colegau #AddysgBellach
Mae sector #addysgbellach a #prentisiaethau Cymru yn wynebu pwysau cost mawr. Yr wythnos hon, rhoddodd @medr.bsky.social dystiolaeth i Bwyllgor CYPE @Senedd.Cymru ar Gyllideb Ddrafft LlC. Mae #colegau yn hanfodol ar gyfer adferiad - rhaid barhau i'w cefnogi ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau.
Sgyrsiau hynod ddiddorol ynghylch arferion gorau yng Nghynhadledd Comisiynydd y Gymraeg hyd yma. Edrych ymlaen at y sesiwn banel y prynhawn yma ar arferion effeithiol yn y trydydd sector.
#AddysgBellach #Cymraeg
Rydym yn edrych ymlaen i Gynhadledd Arferion Da Comisiynydd y Gymraeg heddiw yn Coleg Cambria. Cyfle gwych i gwrdd â chydweithwyr o bob cwr o Gymru, rhannu profiadau, a dysgu mwy am arferion sy’n gallu cryfhau ein defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a thu hwnt.
#Addysgbellach #Cymraeg
📣 Mae ColegauCymru yn falch o lansio ein Maniffesto hashtag#Senedd2026!
Dan y teitl Twf, Cyfle a Thegwch, mae ein gweledigaeth yn nodi sut y gall #AddysgBellach drawsnewid bywydau a grymuso dyfodol Cymru.
📄 Darllenwch fwy: www.colegau.cymru/cy/blog/post...
Mae #colegau #addysgbellach ledled Cymru yn uno i fynd i'r afael â cham-drin menywod a hyrwyddo perthnasoedd parchus. Gan gydweithio â @taithwales.bsky.social, darllenwch fwy am y digwyddiadau diweddar a hwyluswyd gennym:
🔗 www.colegau.cymru/cy/blog/post...
Ymunwch ag arweinwyr, staff a llunwyr polisi #addysgbellach am ddiwrnod o drafodaeth a rhwydweithio ynghylch “Twf, Cyfle a Thegwch” - cyn etholiad y Senedd.