Llun yn dangos tudalen llyfr lloffion porffor gyda darn o selotep yn dal dau wahoddiad yn eu lle. Mae'r un uchaf ar y chwith yn wyrdd a'r un isaf ar y dde yn goch. Mae gan y ddau wahoddiad yr un testun yn union [yn ddu]: Eglwys Martin Sant, Caerfilli Côr/Meibion - TREORCI - Male Voice Choir Disgbyblion Ysgol Gyfun – RHYDFELEN – School Pupils Nos Iau – MAI 22 MAY – Thursday Mynediad - £1.50 – Entrance O lyfr lloffion 1980 sy'n rhan o Archif Ysgol Gyfun Rhydfelen a gedwir yn Archifau Morgannwg.
Edrychwch ar liwiau hyfryd y dudalen hon a grëwyd ers dros 45 mlynedd! Dewch i ymuno â'n gwirfoddolwyr sy'n trawsgrifio dogfennau fel y llyfr lloffion hyfryd hwn a luniwyd gan Ysgol Gyfun Rhydfelen #EYAAddysg #CôrMeibionTreorci @glamarchives.bsky.social