Dyma un o’r dogfennau hynaf sydd ar gadw yn Archifau Morgannwg. Mae’n grant gan Frenin Harri II ac yn rhan o gasgliad Ystâd Plymouth.
#archwilioeicharchif #canoloesol
Un o'n trysorau sydd ar ddangos ar hyn o bryd yn ein Harddangosfa Flynyddol 'Dathlu pen-blwydd y Gadeirlan a Dinas Bangor yn 1500 oed - y ddinas hynaf yng Nghymru’ yw Llyfr Esgobol Bangor. Un llawysgrif litwrgïaidd gyflawn yn unig sydd wedi goroesi o esgobaeth ganoloesol Bangor. Dengys arysgrif ar y llyfr y cyfeirir ato fel ‘esgoblyfr Bangor’ mai ei berchennog gwreiddiol oedd Anian, esgob Bangor, y gellir bellach ei ddyddio’n hyderus i chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn y llyfr ceir testunau, cerddoriaeth a chyfarwyddiadau manwl ar gyfer defodau litwrgïaidd a weinyddir gan esgob: cysegru eglwysi, allorau a mynwentydd; gorseddu a chysegru archesgob; a bendithion arbennig a roddir yn ystod canon yr Offeren ac ar adegau penodol eraill.
Thema Archwiliwch Eich Archif heddiw yw #Canoloesol
LLYFR ESGOBOL BANGOR
Edrychwch ar y ddogfen litwrgïaidd o'r 14eg ganrif o esgobaeth Bangor trwy gofrestru i gael cyfrif rhad ac am ddim:
www.diamm.ac.uk/sources/3785...
#ExploreYourArchives #exploreyourarchive
Diwrnod Sant Andreas hapus! Efallai mai nawddsant yr Alban ydyw, ond dathlwn o yng Nghymru hefyd. Mae’r eglwys yma o’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn Llanandras wedi’i ymroddi iddo, ac mae cerflun o Sant Andreas y tu fewn
zurl.co/b064H
📸RCAHMW, 2012
#SantAndreas #pensaerniaeth #canoloesol #eglwys