Dyma ddiwrnod olaf #Archif30, felly heddiw rydym yn gofyn #PamArchifau? Mae’r Archifau’n ein galluogi i gysylltu â’r gorffennol, dysgu sut cafodd ein cymunedau a’n tirweddau eu creu; ddeall ein treftadaeth a’n synnwyr o le.
D2603/C (Greenmeadow)
Tua'r un pryd, roedd Archifau Gwent yn ystyried symud o Neuadd y Sir yng Nghwmbrân. Yn dilyn gwaith adfer helaeth yn y Swyddfeydd Cyffredinol, ychwanegwyd estyniad newydd i greu Ystafelloedd Diogel a Stiwdio Cadwraeth yr Archifau. #AdeliadArchif #Archif30
Ar ôl cau'r Gwaith Dur yn 2002, daeth y Swyddfeydd Cyffredinol yn rhan o gynllun gwerth £350m i ailddatblygu safle’r gwaith dur.
#AdeliadArchif #Archif30
Adeiladwyd y Swyddfeydd Cyffredinol ym 1915/1916 ar gyfer Cwmni Haearn a Dur Glynebwy. Fe'i dyluniwyd gan y penseiri Veall & Sant mewn arddull Iseldireg / Baróc gyda brics coch a cherrig nadd llwydfelyn.
#AdeliadArchif #Archif30
Vintage C Baker microscope on a wooden surface with teal border and text. Transcribed Text: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant University of Wales Trinity Saint David ARCHIVE 30 LLYFRAUaRHAGOR BOOKS&BEYOND
Microsgop C Baker o hen Goleg Technegol Abertawe. #GwrthrychArchifol #LlyfrPCYDDS #Archif30
---
A C Baker microscope from the old Swansea Technical College #ArchiveObject #UWTSDlib #Archive30
Mae presenoldeb ein casgliadau’n golygu bod yna #RhywbethNewydd i’w ddarganfod o hyd, o fapiau a chynlluniau, ffotograffau a gweithredoedd, i lythyrau personol, dyddiaduron a dyddlyfrau teithio.
#Archif30 #TeithioArchif
Cyf: D361
Archive display of a newspaper collage and bilingual text from University of Wales Trinity Saint David. Transcribed Text: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant University of Wales Trinity Saint David ARCHIVE 30 LLYFRAUaRHAGOR BOOKS&BEYOND The clothes designed as a lifeline for flying visitors to our gardens Pupils put their artistic skills 17 September 2003 Elle’s tickled pink by feather jewel designs Glass school marks 75 years with trail of art OLD DY’VORIANS REWARD HIGH ACHIEVERS Ein hychwanegiad diweddaraf at Archifau Sefydliadol Abertawe, ffolder o doriadau papur newydd o Goleg Celf Abertawe. Our most recent addition to the Swansea Institutional Archives, a folder of newspaper cuttings from the Swansea College of Art.
Ein hychwanegiad diweddaraf at Archifau Sefydliadol Abertawe, ffolder o doriadau papur newydd o Goleg Celf Abertawe. #LlyfrPCYDDS #Archif30
---
Our most recent addition to the Swansea Institutional Archives, a folder of newspaper cuttings from the Swansea College of Art. #UWTSDlib #Archive30
The image is a black-and-white historical photograph depicting a group of people gathered around a small, ice-covered water feature, possibly a fountain. The individuals are dressed in dark, heavy clothing, suggesting a cold climate, and some are holding sticks, implying they are playing or interacting with the ice. The setting is an outdoor area with an arched, stone building visible in the background. This building has large, arched windows, and its façade is partially covered in ivy. The perimeter of the fountain is bordered by stone, with no additional features visible. The image is placed within a teal border that frames the photograph, with text and logos above and below.
Hoci Iâ Cymru – efallai nid yw hwn mor llawn cyffro â’r fersiwn Americanaidd! #ArchiveAction #UWTSDlib #Archive30
---
Welsh ice hockey - perhaps not as action packed as the American version! #GweithredArchif
#LlyfrPCYDDS #Archif30
Wrth ddathlu #CerrigMilltirBychain, mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi bloedd i'n gwirfoddolwyr am eu holl waith caled.
Dros y deuddeg mis diwethaf, llwyddodd ein gwirfoddolwyr Mynediad i drawsgrifio cofrestrau claddedigaethau Sant Sannan a mynegeio erthyglau yn ein casgliad dyddlyfrau...
#Archif30
Y thema heddiw yw #RhywbethBach – cafwyd hyd i’r map bychan hwn o Goetre yn Llyfr Cyflog a Threuliau Gweision, David Watts.
#Archif30 @arascot.bsky.social @archifaucymru.bsky.social
Ref: D1210/500/2
Erioed wedi dymuno rhoi tro ar #RhywbethNewydd? Beth am edrych yn ein casgliadau i gael rhywfaint o ysbrydoliaeth #BwydADiodArchif? Ysgrifennwyd y llyfr ryseitiau hwn sy'n eiddo i Mary Long ym 1828.
#Archif30
@arascot.bsky.social
@archifaucymru.bsky.social
Ref: D361/F1/E/9
Rydym wedi sôn o'r blaen sut y mae #ArchifAnifeiliaid yn gallu ymddangos mewn mannau annisgwyl – ond beth am yr #ArchifAnarferol hwn? Yn llyfrau lloffion William Edward New Clark, fe ddewch chi ar draws ‘cawell.’
#Archif30
@arascot.bsky.social
@archifaucymru.bsky.social
1/
Cyf: D396
Mae ein casgliadau iechyd meddwl yn cadw rhai o #hanesioncudd y sir. Gall nodiadau achos cleifion a chofrestrau derbyn weithiau helpu haneswyr teuluol i ailddarganfod teulu cudd neu anghofiedig.
#Archif30
@arascot.bsky.social
@archifaucymru.bsky.social
... a chyflwynodd siwmper yr oedd hi wedi'i wau o nyddu blew ei chi - roedd sampl fach o'r blew a nyddwyd yn y llyfr lloffion!
#Archif30
@arascot.bsky.social
Weithiau mae #AnifeiliaidArchif yn ymddangos mewn mannau annisgwyl. Roeddem yn rhestru o gofnodion Sefydliad y Merched yn ddiweddar pan ddaethom ar draws y cofnod annisgwyl hwn mewn llyfr lloffion! Roedd siaradwr wedi rhoi arddangosiad ar ddulliau traddodiadol o nyddu...
#Archif30
Beth yw #CynlluniauEinHarchif ar gyfer y dyfodol? Ein prif ffocws yw sicrhau bod ein casgliadau yn fwy hygyrch.
Rydyn ni’n gobeithio cynnal mwy o ddigwyddiadau – Beth am ymuno â ni yn ein digwyddiad ddydd Llun 14 Ebrill, pan fyddwn ni’n dathlu 75 mlynedd o Dref Newydd #Cwmbrân? #Archif30
Mae #ArchifLliwgar heddiw yn ddetholiad o lyfr John Foord. Er nad oes iddo ddyddiad, credwn ei fod yn deillio o’r 18fed ganrif. Byddai tref Cil-y-coed wedi ei hamgylchynu gan gaeau mawr, agored. Byddai'r caeau wedi cael eu rhannu'n stribedi a’u gosod yn unigol.
#Archif30
Cyf: D25/1972
Ym 1878, meddiannodd John Basham sefydlodd Blanhigfa Fairoak ym Masaleg. Roedd ei ddawn am dyfu rhosod a ffrwythau yn ddigon i’w arwain i fod yn Gymrawd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol. Mae #ArchifauBusnes Planhigfa Fairoak i’w weld ar-lein yma: buff.ly/hgIwRmV
#Archif30
Rydym hefyd wedi newid y ffordd yr ydym yn defnyddio rhai ystafelloedd yn yr adeilad. Mae hyn yn golygu bod bellach gennym Ystafell Baratoi, lle gallwn lanhau ac ail-lapio casgliadau hen a newydd mewn lle pwrpasol. Mae hefyd yn gartref i'r storfa oer a'r rhewgell newydd fel.
#Archif30
Mae Archifau Gwent yn cadw ychydig o archifau #SainaLlun – un o'r casgliadau hyn yw cyfres o hanesion llafar sy'n cofnodi straeon y rhai a fu'n byw a gweithio ar Wastadeddau Gwent. Mae llawer o'r hanesion llafar i'w gweld ar brosiect Lefelau Byw yma: www.livinglevels.org.uk/life-on-the-...
#Archif30
Oeddech chi’n gwybod fod #DechrauArchif Gwent yn mynd yn ôl i 1938? Goruchwyliwyd Swyddfa Cofnodion Sir Fynwy yn Neuadd y Sir, Casnewydd, i gychwyn gan James Conway Davies, a oedd wedi ei benodi’n Archifydd Ymgynghorol, ac a oedd â’r dasg o wneud arolwg o gofnodion y sir a’u catalogio. #Archif30
Shwmae Pawb! Pa ffordd well o ddechrau #Archif30 na chyflwyno ni ein hunain? Edrychwch ar y fideo yma am #EichArchif - wedi ei greu gan ein ffrindiau yn Afrosheep Animations!
youtu.be/5TCN0MLRDho
@arascot.bsky.social
@archifaucymru.bsky.social