Advertisement · 728 × 90
#
Hashtag
#FformatauAmgen
Advertisement · 728 × 90
[Darlun cyffyrddol o goeden Nadolig. Mae'r goeden wedi'i haddurno gydag addurniadau siâp cylch a sêr, ac mae seren ar ben y goeden.]

[Darlun cyffyrddol o goeden Nadolig. Mae'r goeden wedi'i haddurno gydag addurniadau siâp cylch a sêr, ac mae seren ar ben y goeden.]

Am dymor prysur! Diolch enfawr i bawb a'n helpodd i ddarparu adnoddau dysgu hygyrch eleni - cyhoeddwyr, academyddion, gwasanaethau proffesiynol, cydweithwyr llyfrgell, y tîm glanhau ac RNIB Bookshare! ⭐ #FeedbackFriday #FformatauAmgen

1 0 0 0
Ffotograff o liwiau gwahanol o bapur gyda'r testun 'Gwahanol liwiau ar gyfer gwahanol anableddau print'.

Ffotograff o liwiau gwahanol o bapur gyda'r testun 'Gwahanol liwiau ar gyfer gwahanol anableddau print'.

A-Y o @sutranscription.bsky.social! Mae C ar gyfer ... papur lliw (coloured paper). Yn ein cypyrddau, mae gennym bapur mewn (bron!) pob lliw o'r enfys. Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr i ddarganfod pa liw, ffont, maint ffont a bylchiad llinellau sy'n gweithio orau iddynt 🌈 #FformatauAmgen

1 0 0 0
Map cyffyrddol o Gampws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe. Yn defnyddio llinellau wedi'u codi i ddangos amlinelliad adeiladau a llwybrau cerdded.

Map cyffyrddol o Gampws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe. Yn defnyddio llinellau wedi'u codi i ddangos amlinelliad adeiladau a llwybrau cerdded.

Gan ein bod ni'n dîm bach, byddwch yn ymwybodol bydd gennym lai o staff ar rai diwrnodau yn ystod mis Awst ac efallai y bydd y Ganolfan @sutranscription.bsky.social ar gau. Rhowch wybod i ni os ydych chi'n bwriadu galw i mewn: braille@abertawe.ac.uk 😀 #FformatauAmgen

0 0 0 0

Ymatebodd un o'n myfyrwyr i'n Harolwg Myfyrwyr blynyddol i ddweud: "Diolch – mae'r cymorth trawsgrifio wedi bod yn hynod ddefnyddiol ac wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'm llif gwaith." ⭐️ #FformatauAmgen

0 0 0 0
Campws Singleton Prifysgol Abertawe gyda Bae Abertawe i'r chwith a Pharc Singleton i'r dde.

Campws Singleton Prifysgol Abertawe gyda Bae Abertawe i'r chwith a Pharc Singleton i'r dde.

Campws y Bae, Prifysgol Abertawe o'r awyr gyda Bae Abertawe i'r chwith.

Campws y Bae, Prifysgol Abertawe o'r awyr gyda Bae Abertawe i'r chwith.

Braf i groesawu darpar fyfyriwr i @sutranscription.bsky.social a Phrifysgol Abertawe heddiw! Os hoffech chi wybod mwy am ein gwasanaeth neu os hoffech chi drefnu ymweliad, cysylltwch: braille@abertawe.ac.uk neu trwy'r Swyddfa Anableddau ar wellbeingdisability@abertawe.ac.uk 😀 #FformatauAmgen

1 0 0 0
Machlud haul yn Rhosili, Gŵyr.

Machlud haul yn Rhosili, Gŵyr.

Dros yr Haf rydym yn brysur yn paratoi deunyddiau ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi! Cysylltodd un darlithydd â ni i ddweud: "Diolch am gysylltu mor gynnar, mae'n ddefnyddiol i mi gadw hyn mewn cof wrth i mi ddylunio cynnwys y modiwl!" ☀️ #FeedbackFriday #FformatauAmgen

1 0 0 0
Bwrdd gwaith yn yr Ystafell Cyfarfodydd y Ganolfan, gyda 4 gliniadur agored, paneidiau o de, papur ac ysgrifbin, pecyn o Haribo Starmix a phecyn o pice ar y maen.

Bwrdd gwaith yn yr Ystafell Cyfarfodydd y Ganolfan, gyda 4 gliniadur agored, paneidiau o de, papur ac ysgrifbin, pecyn o Haribo Starmix a phecyn o pice ar y maen.

Mae'r tîm @sutranscription.bsky.social wedi bod yn brysur bore 'ma gyda'n hadolygiad blynyddol o'r Llawlyfr Swyddfa - gyda Haribo Starmix, pice ar y maen a phaneidiau o de i helpu! 😀 #FformatauAmgen #hygyrchedd

0 0 0 0
Sgrin lun o arolwg adborth myfyrwyr y Ganolfan.
Testun: SUTC Student Survey 2024-2025. 
Which format(s) did you receive from us in the last academic year?

Sgrin lun o arolwg adborth myfyrwyr y Ganolfan. Testun: SUTC Student Survey 2024-2025. Which format(s) did you receive from us in the last academic year?

Ymateb arall gan un o'n myfyrwyr i'n Harolwg Myfyrwyr blynyddol: "diolch yn fawr am eich holl gymorth bob amser! Daliwch ati â'r gwaith anhygoel!" ⭐️ #FeedbackFriday #FformatauAmgen #hygyrchedd

0 0 0 0
Preview
Undergraduate Prospectus - Swansea UniversityMenu Download or order an Undergraduate Prospectus. Study at the University of the Year (WhatUni Student Choice Awards 2019), based on 41,000+ student reviews.

Yn ddiweddar mae’r tîm wedi cynhyrchu'r prosbectws Israddedig Prifysgol Abertawe 2025/26 (fersiwn Saesneg) mewn fformat #hygyrch electronig (fersiwn Cymraeg ar gael yn fuan!) 😀 Mae'r prosbectws ar gael ar y ddolen gyswllt ganlynol: www.swansea.ac.uk/undergraduat...
#FformatauAmgen #hygyrchedd

0 0 0 0

Adborth gwych gan un o'n myfyrwyr: "Diolch am eich holl waith caled yn trawsgrifio deunyddiau ar gyfer fy nghwrs. Mae nhw wedi bod yn amhrisiadwy hyd yn hyn ac rwyf yn gwerthfawrogi'n fawr eich holl egni a'ch amser." 🤩 #FeedbackFriday #hygyrchedd #PrintBras #FformatauAmgen

1 0 0 0

Uchafbwynt ein diwrnod oedd derbyn yr adborth hwn gan un o'n myfyrwyr: "Rydych chi'n anhygoel..." - Dydd Gwener Hapus! 🤩 #FeedbackFriday #FformatauAmgen #PrintBras #hygyrchedd

1 0 0 0
Dyfyniad "Had amazing support with yourselves, and I'm sure you'd have great practice to share with other universities in Britain." Testun o dan y dyfyniad yn dweud 'Swansea University Transcription Centre alumni student, BA French and German.'

Dyfyniad "Had amazing support with yourselves, and I'm sure you'd have great practice to share with other universities in Britain." Testun o dan y dyfyniad yn dweud 'Swansea University Transcription Centre alumni student, BA French and German.'

Gwych clywed gan gyn-fyfyrwyr ac i dderbyn adborth mor bositif hefyd: “Ges i gymorth gwych gan y tîm, a dw i’n siwr fod gennych ymarfer da i’w rhannu gyda phrifysgolion eraill ym Mhrydain.” 😀 #FeedbackFriday #hygyrchedd #FformatauAmgen

1 0 0 0

Adborth positif gan gydweithiwr @citystgeorges.bsky.social: "Wn i ddim beth fyddem ni'n ei wneud heb eich cymorth chi. Doedden ni'n gwybod dim ynghylch Braille ychydig fisoedd yn ôl. 😊" Hapus i helpu! #FformatauAmgen #GweithioGydanGilydd #FeedbackFriday

0 0 0 0
Llun cartŵn o'r gath Pusheen yn gweithio ar gyfrifiadur yn cynnwys y testun 'I'm busy'. Testun ychwanegol o dan y llun: 'The SUTC team till Easter'.

Llun cartŵn o'r gath Pusheen yn gweithio ar gyfrifiadur yn cynnwys y testun 'I'm busy'. Testun ychwanegol o dan y llun: 'The SUTC team till Easter'.

Rydym yn brysur yn paratoi am y tymor newydd - trawsgrifio deunydd ar gyfer darlithoedd i mewn i brint bras, dod o hyd i/sganio llyfrau ac erthyglau a chreu fersiynau hygyrch, ac yn cynnal cyfarfodydd sefydlu 😀 #hygyrchedd #FformatauAmgen #PrintBras

1 0 0 0

Adborth positif i @sutranscription.bsky.social gan un o'n myfyrwyr: "Gobeithio i chi gael Nadolig a Blwyddyn Newydd Dda! Jyst eisiau dweud diolch enfawr am yr holl waith trawsgrifio rydych chi wedi gwneud i mi hyd yma." ⭐ #FeedbackFriday #FformatauAmgen #hygyrchedd

3 0 0 0

Wrth i ddiwedd tymor prysur iawn agosáu, hoffem ddweud diolch yn fawr IAWN i staff addysgu Prifysgol Abertawe o nifer o adrannau sydd wedi gweithio gyda ni yn ystod y tymor hwn i ddarparu #FformatauAmgen. Mae gweithio gyda'n gilydd wir yn gwneud gwahaniaeth i'n myfyrwyr! ⭐️ #hygyrchedd

1 0 0 0
Cwrdd â'r Tîm - Tina

Beth wyt ti’n ei ddarllen ar hyn o bryd?                                                       28 Summers gan Elin Hilderbrand
                               
Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny?
Athrawes Addysg Gorfforol a Saesneg

Beth yw dy hoff beth i'w wneud yn Abertawe?                                        Bod wrth y môr, naill ai cerdded, nofio neu badlfyrddio

Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Yr amrywiaeth fawr o bobl rwy'n ffodus i weithio gyda nhw a'r lleoliad.

Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys?
Ritter Sport Cornflakes

Cwrdd â'r Tîm - Tina Beth wyt ti’n ei ddarllen ar hyn o bryd? 28 Summers gan Elin Hilderbrand Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny? Athrawes Addysg Gorfforol a Saesneg Beth yw dy hoff beth i'w wneud yn Abertawe? Bod wrth y môr, naill ai cerdded, nofio neu badlfyrddio Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe? Yr amrywiaeth fawr o bobl rwy'n ffodus i weithio gyda nhw a'r lleoliad. Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys? Ritter Sport Cornflakes

Cwrdd â'r Tîm - Angharad

Beth wyt ti'n ei ddarllen ar hyn o bryd? 
Y Morfarch Arian gan Eurgain Haf, She Needs gan Nay Dawson, Vera Wong's Unasked Advice for Murderers gan Jesse Sutanto 
                              
Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny?
Nyrs

Beth yw dy hoff beth i'w wneud yn Abertawe? 
Nofio yn y môr

Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Croesi llwybrau gyda ffrindiau hen a newydd, y môr o'n blaenau a'r parc y tu ôl i ni.

Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys?
Siocled tywyll iawn, a mafon o’r ardd

Cwrdd â'r Tîm - Angharad Beth wyt ti'n ei ddarllen ar hyn o bryd? Y Morfarch Arian gan Eurgain Haf, She Needs gan Nay Dawson, Vera Wong's Unasked Advice for Murderers gan Jesse Sutanto Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny? Nyrs Beth yw dy hoff beth i'w wneud yn Abertawe? Nofio yn y môr Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe? Croesi llwybrau gyda ffrindiau hen a newydd, y môr o'n blaenau a'r parc y tu ôl i ni. Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys? Siocled tywyll iawn, a mafon o’r ardd

Cwrdd â'r Tîm - Naomi

Beth wyt ti’n ei ddarllen ar hyn o bryd? 
The Miracle of Castel di Sangro gan Joe McGinniss
                              
Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny?
Athrawes

Beth yw dy hoff le i ymweld ag ef yn Abertawe? 
Stadiwm Swansea.com (dim ond os bydd yr Elyrch yn ennill!), fel arall Llanmadog a Marchnad Abertawe

Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Rwy'n dysgu pethau newydd yn gyson!

Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys?
Mae hwn yn gwestiwn anodd ond dwi'n mynd i ddewis Millionaire shortbread

Cwrdd â'r Tîm - Naomi Beth wyt ti’n ei ddarllen ar hyn o bryd? The Miracle of Castel di Sangro gan Joe McGinniss Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny? Athrawes Beth yw dy hoff le i ymweld ag ef yn Abertawe? Stadiwm Swansea.com (dim ond os bydd yr Elyrch yn ennill!), fel arall Llanmadog a Marchnad Abertawe Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe? Rwy'n dysgu pethau newydd yn gyson! Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys? Mae hwn yn gwestiwn anodd ond dwi'n mynd i ddewis Millionaire shortbread

Cwrdd â'r Tîm - Sofie

Beth wyt ti’n ei ddarllen ar hyn o bryd? 
Mae gormod o lyfrau i'w cyfrif... Rwy'n mwynhau Silence: In the Age of Noise gan Erling Kagge 
                              
Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny?
Arlunydd

Beth yw dy hoff beth i'w wneud yn Abertawe?
Mwynhau’r holl fannau gwyrdd sydd gan Abertawe i'w cynnig - Kilvey Hill, Parc Singleton, Gerddi Clun... a mwy!

Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Bod yn rhan o dîm gwych! Hefyd, cael Parc Singleton ar fy stepen drws.

Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys?
Unrhyw siocled ... Ond yn enwedig siocled gwyn

Cwrdd â'r Tîm - Sofie Beth wyt ti’n ei ddarllen ar hyn o bryd? Mae gormod o lyfrau i'w cyfrif... Rwy'n mwynhau Silence: In the Age of Noise gan Erling Kagge Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny? Arlunydd Beth yw dy hoff beth i'w wneud yn Abertawe? Mwynhau’r holl fannau gwyrdd sydd gan Abertawe i'w cynnig - Kilvey Hill, Parc Singleton, Gerddi Clun... a mwy! Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe? Bod yn rhan o dîm gwych! Hefyd, cael Parc Singleton ar fy stepen drws. Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys? Unrhyw siocled ... Ond yn enwedig siocled gwyn

Yn sydyn mae gennym 102 o ddilynwyr ar @bsky.app! 👋
Ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd, fe wnaethon ni bostio 'Cwrdd â'r Tîm' ar blatfform arall, ond mae hwn yn gyfle da i gyflwyno'r tîm @sutranscription.bsky.social! #Hygyrchedd #FformatauAmgen #Cynwysoldeb

1 1 0 0

Adborth gwych gan fyfyriwr i orffen yr wythnos: "Roeddwn i eisiau diolch i chi a phawb yn eich adran am y gwaith anhygoel rydych chi'n ei wneud ac am fy nghefnogi. Diolch yn fawr iawn i bawb." Dydd Gwener Hapus gan @sutranscription.bsky.social! 😀 #FeedbackFriday #hygyrchedd #FformatauAmgen

2 0 0 0