Advertisement · 728 × 90
#
Hashtag
#hygyrchedd
Advertisement · 728 × 90

Adborth dydd Gwener heddiw yw diolch enfawr i'r holl dimau @swanseauni.bsky.social sydd wedi gweithio gyda @sutranscription.bsky.social scription hyd yn hyn eleni. Fedrwn ni ddim gwneud ein gwaith hebddo chi 💛 #FeedbackFriday #Hygyrchedd #AddysgGynwhysol #AccessibilityMatters #InclusiveEducation

1 0 0 0

A dyna ddiwedd yr wyddor! Diolch i bawb ddaeth ar ein taith Trawsgrifio A-Z. Byddem wrth ein bodd yn clywed pa un oedd eich hoff lythyren, neu os oedd unrhyw beth rydych chi'n tybio i ni ei golli! 😊 #Hygyrchedd

0 0 0 0
Sgrinlun o wefan ProMo Cymru yn dangos blog gyda’r teitl ‘Digital Inclusion: Help with 6 common challenges’. Ar ochr y dudalen, mae ffenestr ategyn BSL Signapse ar agor, gyda fideo wedi’i gynhyrchu gan AI o berson yn arwyddo cynnwys y dudalen mewn Iaith Arwyddo Brydeinig

Rydym wedi partneru â Signapse AI i droi cynnwys digidol yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr BSL. Gan ddefnyddio cyfieithu â chymorth AI, rydym yn chwalu’r rhwystrau i wybodaeth. Ewch draw i’n hadnoddau cynhwysol sydd newydd eu cyfieithu!

promo.cymru/resource-cat...

#Hygyrchedd #BSL #AIerLles

1 0 0 0
[Map A3 o Sbaen gyda labeli print mawr, atlas yn dangos Sbaen a chwyddwydr.]

[Map A3 o Sbaen gyda labeli print mawr, atlas yn dangos Sbaen a chwyddwydr.]

A-Y @SUTranscription. Mae L ar gyfer Print Bras “LargePrint”. Am hwyl wrth gynhyrchu map maint A3 o Sbaen gyda labeli print mawr! Roedd yn rhaid pori’r atlas 🌍🔎 #hygyrchedd #PrintBras

0 0 0 0
Delwedd graffeg o'r poster ffilm 'JAWS' gyda’r geiriau “Genau”, yn dangos morgi mawr gwyn gyda'i geg ar agor yn nofio i wyneb y dŵr.

Delwedd graffeg o'r poster ffilm 'JAWS' gyda’r geiriau “Genau”, yn dangos morgi mawr gwyn gyda'i geg ar agor yn nofio i wyneb y dŵr.

A-Y @SUTranscription. Mae J am JAWS. Darllenydd sgrin sy’n darparu allbwn ar ffurf braille ac ar lafar, i’r rhan fwyaf o feddalwedd gyfrifiadurol. Dim byd i godi ofn! 🦈 #hygyrchedd #TechnolegGynorthwyol

0 0 0 0
[Llun o Helen Keller ar y chwaith a dyfyniad ganddi ar y dde: ““Alone we can do so little; together we can do so much.”]

[Llun o Helen Keller ar y chwaith a dyfyniad ganddi ar y dde: ““Alone we can do so little; together we can do so much.”]

A – Y o @SUTranscription. H am… Helen Keller. Hi oedd y person dall a byddar cyntaf i ennill gradd BA. Mae ei gwaith wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i feysydd colled golwg a chlyw. Mwy o wybodaeth ar gael: helenkellerintl.org/who-we-are/h... #hygyrchedd

1 0 0 0
Boglynnwr Braille mewn cabinet gyda phapur braille ynddo.

Boglynnwr Braille mewn cabinet gyda phapur braille ynddo.

A-Y o @sutranscription.bsky.social! Mae E ar gyfer ... boglynnwr (embosser). Mae hwn yn argraffydd pwerus (a swnllyd) sy'n byw yn yr ‘Ystafell Braille’ yn SUTC. Mae'n gweithio fel argraffydd ac yn caniatáu i ni foglynnu mewn braille dogfennau rydyn ni wedi'u trawsgrifio'n electronig. #Hygyrchedd

1 0 0 0
4. How approachable and friendly are we as a team? (1-5, 1 being poor, 5 being excellent). Average rating: 5.

4. How approachable and friendly are we as a team? (1-5, 1 being poor, 5 being excellent). Average rating: 5.

Pob blwyddyn rydym yn anfon ein Harolwg Myfyrwyr! Mae'r adborth a'r awgrymiadau rydym yn derbyn yn hollbwysig wrth lunio a gwella ein gwasanaeth ar gyfer anghenion myfyrwyr. Derbyniom ni adborth positif iawn blwyddyn yma! 😀 #FeedbackFriday #hygyrchedd #cynhwysoldeb

0 0 0 0
Bwrdd gwaith yn yr Ystafell Cyfarfodydd y Ganolfan, gyda 4 gliniadur agored, paneidiau o de, papur ac ysgrifbin, pecyn o Haribo Starmix a phecyn o pice ar y maen.

Bwrdd gwaith yn yr Ystafell Cyfarfodydd y Ganolfan, gyda 4 gliniadur agored, paneidiau o de, papur ac ysgrifbin, pecyn o Haribo Starmix a phecyn o pice ar y maen.

Mae'r tîm @sutranscription.bsky.social wedi bod yn brysur bore 'ma gyda'n hadolygiad blynyddol o'r Llawlyfr Swyddfa - gyda Haribo Starmix, pice ar y maen a phaneidiau o de i helpu! 😀 #FformatauAmgen #hygyrchedd

0 0 0 0
Sgrin lun o arolwg adborth myfyrwyr y Ganolfan.
Testun: SUTC Student Survey 2024-2025. 
Which format(s) did you receive from us in the last academic year?

Sgrin lun o arolwg adborth myfyrwyr y Ganolfan. Testun: SUTC Student Survey 2024-2025. Which format(s) did you receive from us in the last academic year?

Ymateb arall gan un o'n myfyrwyr i'n Harolwg Myfyrwyr blynyddol: "diolch yn fawr am eich holl gymorth bob amser! Daliwch ati â'r gwaith anhygoel!" ⭐️ #FeedbackFriday #FformatauAmgen #hygyrchedd

0 0 0 0

#Hygyrchedd Pan rydych chi’n defnyddio hashnod defnyddiwch Pascal Case fel bod darllenydd sgrin yn gallu darllen y geiriau’n gywir, felly defnyddiwch #HawddEiDdeall nid #hawddeiddeall

0 0 0 0
Logo GAAD (Global Accessibility Awareness Day - Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang).

Logo GAAD (Global Accessibility Awareness Day - Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang).

Arddangosfa SUTC GAAD yn Llyfrgell Singleton sy'n cynnwys llun o'r tîm, manylion cyswllt, ffeithiau a ffigyrau, dyfyniadau gan fyfyrwyr rydym wedi'u cefnogi dros y blynyddoedd, gair i gall hygyrchedd a thechnoleg gynorthwyol, Brics Lego Braille ac enghreifftiau o fformatau amgen.

Arddangosfa SUTC GAAD yn Llyfrgell Singleton sy'n cynnwys gair i gall ar hygyrchedd, Brics Lego Braille ac enghreifftiau o fformatau amgen.

I nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang, rydym wedi creu arddangosfa #GAAD draw yn Llyfrgell Singleton 😀 Mae'n cynnwys gair i gall ar hygyrchedd a thechnoleg gynorthwyol, Brics Lego Braille, enghreifftiau o fformatau hygyrch, ffeithiau a ffigyrau a mwy! #GAAD2025 #hygyrchedd

1 0 0 1
Poster Saesneg yn cynnwys y logo ar gyfer 'Disabled Students UK'. Mae'r testun yn cynnwys: "Have your voice heard in the Annual Disabled Student Survey! You do not need to have a diagnosis in order to fill in the survey. Disabilities include long term conditions such as chronic illnesses, mental health conditions and neurodiversity.”

Mae'r Arolwg Blynyddol 2025 @disabledstudentsuk.bsky.social yn fyw! Dyma'r arolwg mwyaf ar hygyrchedd prifysgolion hyd yma ac mae wedi cael ei greu gan fyfyrwyr anabl ar gyfer myfyrwyr anabl. Arolwg yn cau ddiwedd Gorffennaf: app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/dsuk-resea... #Hygyrchedd #FeedbackFriday

0 1 0 1
Wy Pasg Maltesers, 2 pecyn o Mini Eggs a 2 Malteser Bunny. Mae dau ddarn o bapur, un yn dweud 'Pasg Hapus' mewn print bras ac un yn dweud yr un peth mewn ffont Braille.

Wy Pasg Maltesers, 2 pecyn o Mini Eggs a 2 Malteser Bunny. Mae dau ddarn o bapur, un yn dweud 'Pasg Hapus' mewn print bras ac un yn dweud yr un peth mewn ffont Braille.

Byddwn ar agor dros wyliau'r Pasg, ond gyda llai o staff ar brydiau felly cysylltwch os ydych yn bwriadu galw i mewn. Bydd @sutranscription.bsky.social ar gau 17eg o Ebrill - 22ain o Ebrill, gan ailagor ar 23ain o Ebrill🐰 #hygyrchedd #FformatauHygyrch

1 0 0 0
Preview
Undergraduate Prospectus - Swansea UniversityMenu Download or order an Undergraduate Prospectus. Study at the University of the Year (WhatUni Student Choice Awards 2019), based on 41,000+ student reviews.

Yn ddiweddar mae’r tîm wedi cynhyrchu'r prosbectws Israddedig Prifysgol Abertawe 2025/26 (fersiwn Saesneg) mewn fformat #hygyrch electronig (fersiwn Cymraeg ar gael yn fuan!) 😀 Mae'r prosbectws ar gael ar y ddolen gyswllt ganlynol: www.swansea.ac.uk/undergraduat...
#FformatauAmgen #hygyrchedd

0 0 0 0

Adborth gwych gan un o'n myfyrwyr: "Diolch am eich holl waith caled yn trawsgrifio deunyddiau ar gyfer fy nghwrs. Mae nhw wedi bod yn amhrisiadwy hyd yn hyn ac rwyf yn gwerthfawrogi'n fawr eich holl egni a'ch amser." 🤩 #FeedbackFriday #hygyrchedd #PrintBras #FformatauAmgen

1 0 0 0

Uchafbwynt ein diwrnod oedd derbyn yr adborth hwn gan un o'n myfyrwyr: "Rydych chi'n anhygoel..." - Dydd Gwener Hapus! 🤩 #FeedbackFriday #FformatauAmgen #PrintBras #hygyrchedd

1 0 0 0
Preview
Hygyrchedd / Accessibility - YouTube

A playlist of #Hygyrchedd / #Accessibility videos from the Centre for Digital Public Services / Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (@cdps.bsky.social).

www.youtube.com/playlist?lis...

3 2 0 0
Dyfyniad "Had amazing support with yourselves, and I'm sure you'd have great practice to share with other universities in Britain." Testun o dan y dyfyniad yn dweud 'Swansea University Transcription Centre alumni student, BA French and German.'

Gwych clywed gan gyn-fyfyrwyr ac i dderbyn adborth mor bositif hefyd: “Ges i gymorth gwych gan y tîm, a dw i’n siwr fod gennych ymarfer da i’w rhannu gyda phrifysgolion eraill ym Mhrydain.” 😀 #FeedbackFriday #hygyrchedd #FformatauAmgen

1 0 0 0
Cliniadur agored gyda'r gair 'Accessibility' ar y sgrin. Uwchben y cliniadur ceir 5 eicon yn dangos anghenion hygyrchedd gwahanol.

Cliniadur agored gyda'r gair 'Accessibility' ar y sgrin. Uwchben y cliniadur ceir 5 eicon yn dangos anghenion hygyrchedd gwahanol.

"Mae 'na gwahaniaeth rhwng bod pethau'n gydymffurfio a bod pethau wir yn hygyrch."
#DoethinebDyddMercher #hygyrchedd #cynwysoldeb #a11y

1 0 0 0
Llun cartŵn o'r gath Pusheen yn gweithio ar gyfrifiadur yn cynnwys y testun 'I'm busy'. Testun ychwanegol o dan y llun: 'The SUTC team till Easter'.

Llun cartŵn o'r gath Pusheen yn gweithio ar gyfrifiadur yn cynnwys y testun 'I'm busy'. Testun ychwanegol o dan y llun: 'The SUTC team till Easter'.

Rydym yn brysur yn paratoi am y tymor newydd - trawsgrifio deunydd ar gyfer darlithoedd i mewn i brint bras, dod o hyd i/sganio llyfrau ac erthyglau a chreu fersiynau hygyrch, ac yn cynnal cyfarfodydd sefydlu 😀 #hygyrchedd #FformatauAmgen #PrintBras

1 0 0 0

Adborth positif i @sutranscription.bsky.social gan un o'n myfyrwyr: "Gobeithio i chi gael Nadolig a Blwyddyn Newydd Dda! Jyst eisiau dweud diolch enfawr am yr holl waith trawsgrifio rydych chi wedi gwneud i mi hyd yma." ⭐ #FeedbackFriday #FformatauAmgen #hygyrchedd

3 0 0 0

Wrth i ddiwedd tymor prysur iawn agosáu, hoffem ddweud diolch yn fawr IAWN i staff addysgu Prifysgol Abertawe o nifer o adrannau sydd wedi gweithio gyda ni yn ystod y tymor hwn i ddarparu #FformatauAmgen. Mae gweithio gyda'n gilydd wir yn gwneud gwahaniaeth i'n myfyrwyr! ⭐️ #hygyrchedd

1 0 0 0
Cwrdd â'r Tîm - Tina

Beth wyt ti’n ei ddarllen ar hyn o bryd?                                                       28 Summers gan Elin Hilderbrand
                               
Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny?
Athrawes Addysg Gorfforol a Saesneg

Beth yw dy hoff beth i'w wneud yn Abertawe?                                        Bod wrth y môr, naill ai cerdded, nofio neu badlfyrddio

Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Yr amrywiaeth fawr o bobl rwy'n ffodus i weithio gyda nhw a'r lleoliad.

Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys?
Ritter Sport Cornflakes

Cwrdd â'r Tîm - Tina Beth wyt ti’n ei ddarllen ar hyn o bryd? 28 Summers gan Elin Hilderbrand Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny? Athrawes Addysg Gorfforol a Saesneg Beth yw dy hoff beth i'w wneud yn Abertawe? Bod wrth y môr, naill ai cerdded, nofio neu badlfyrddio Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe? Yr amrywiaeth fawr o bobl rwy'n ffodus i weithio gyda nhw a'r lleoliad. Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys? Ritter Sport Cornflakes

Cwrdd â'r Tîm - Angharad

Beth wyt ti'n ei ddarllen ar hyn o bryd? 
Y Morfarch Arian gan Eurgain Haf, She Needs gan Nay Dawson, Vera Wong's Unasked Advice for Murderers gan Jesse Sutanto 
                              
Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny?
Nyrs

Beth yw dy hoff beth i'w wneud yn Abertawe? 
Nofio yn y môr

Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Croesi llwybrau gyda ffrindiau hen a newydd, y môr o'n blaenau a'r parc y tu ôl i ni.

Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys?
Siocled tywyll iawn, a mafon o’r ardd

Cwrdd â'r Tîm - Angharad Beth wyt ti'n ei ddarllen ar hyn o bryd? Y Morfarch Arian gan Eurgain Haf, She Needs gan Nay Dawson, Vera Wong's Unasked Advice for Murderers gan Jesse Sutanto Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny? Nyrs Beth yw dy hoff beth i'w wneud yn Abertawe? Nofio yn y môr Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe? Croesi llwybrau gyda ffrindiau hen a newydd, y môr o'n blaenau a'r parc y tu ôl i ni. Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys? Siocled tywyll iawn, a mafon o’r ardd

Cwrdd â'r Tîm - Naomi

Beth wyt ti’n ei ddarllen ar hyn o bryd? 
The Miracle of Castel di Sangro gan Joe McGinniss
                              
Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny?
Athrawes

Beth yw dy hoff le i ymweld ag ef yn Abertawe? 
Stadiwm Swansea.com (dim ond os bydd yr Elyrch yn ennill!), fel arall Llanmadog a Marchnad Abertawe

Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Rwy'n dysgu pethau newydd yn gyson!

Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys?
Mae hwn yn gwestiwn anodd ond dwi'n mynd i ddewis Millionaire shortbread

Cwrdd â'r Tîm - Naomi Beth wyt ti’n ei ddarllen ar hyn o bryd? The Miracle of Castel di Sangro gan Joe McGinniss Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny? Athrawes Beth yw dy hoff le i ymweld ag ef yn Abertawe? Stadiwm Swansea.com (dim ond os bydd yr Elyrch yn ennill!), fel arall Llanmadog a Marchnad Abertawe Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe? Rwy'n dysgu pethau newydd yn gyson! Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys? Mae hwn yn gwestiwn anodd ond dwi'n mynd i ddewis Millionaire shortbread

Cwrdd â'r Tîm - Sofie

Beth wyt ti’n ei ddarllen ar hyn o bryd? 
Mae gormod o lyfrau i'w cyfrif... Rwy'n mwynhau Silence: In the Age of Noise gan Erling Kagge 
                              
Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny?
Arlunydd

Beth yw dy hoff beth i'w wneud yn Abertawe?
Mwynhau’r holl fannau gwyrdd sydd gan Abertawe i'w cynnig - Kilvey Hill, Parc Singleton, Gerddi Clun... a mwy!

Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Bod yn rhan o dîm gwych! Hefyd, cael Parc Singleton ar fy stepen drws.

Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys?
Unrhyw siocled ... Ond yn enwedig siocled gwyn

Cwrdd â'r Tîm - Sofie Beth wyt ti’n ei ddarllen ar hyn o bryd? Mae gormod o lyfrau i'w cyfrif... Rwy'n mwynhau Silence: In the Age of Noise gan Erling Kagge Fel plentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny? Arlunydd Beth yw dy hoff beth i'w wneud yn Abertawe? Mwynhau’r holl fannau gwyrdd sydd gan Abertawe i'w cynnig - Kilvey Hill, Parc Singleton, Gerddi Clun... a mwy! Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mhrifysgol Abertawe? Bod yn rhan o dîm gwych! Hefyd, cael Parc Singleton ar fy stepen drws. Cwestiwn bonws… Beth yw dy hoff beth melys? Unrhyw siocled ... Ond yn enwedig siocled gwyn

Yn sydyn mae gennym 102 o ddilynwyr ar @bsky.app! 👋
Ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd, fe wnaethon ni bostio 'Cwrdd â'r Tîm' ar blatfform arall, ond mae hwn yn gyfle da i gyflwyno'r tîm @sutranscription.bsky.social! #Hygyrchedd #FformatauAmgen #Cynwysoldeb

1 1 0 0

Adborth gwych gan fyfyriwr i orffen yr wythnos: "Roeddwn i eisiau diolch i chi a phawb yn eich adran am y gwaith anhygoel rydych chi'n ei wneud ac am fy nghefnogi. Diolch yn fawr iawn i bawb." Dydd Gwener Hapus gan @sutranscription.bsky.social! 😀 #FeedbackFriday #hygyrchedd #FformatauAmgen

2 0 0 0