Diwrnod gwych yn Sioe Iechyd a Lles Myfyrwyr Coleg Castell-nedd Port Talbot, Campws Castell-nedd heddiw – ymgysylltu gwych, cwestiynau da a digon o drafodaethau ar #niwrowahaniaeth.
Dewch i ni wneud yr wythnos nesaf yn ddathliad ystyrlon o ddealltwriaeth, derbyn a chynnwys. 💛
#WythnosDathluNiwroamrywiaeth #MaeNiwrogynhwysiantYnBwysig #Niwroamrywiaeth #Niwrowahaniaeth #Cynhwysiant
Darllenwch am brofiad Iwan Roberts o dderbyn diagnosis hwyr o awtistiaeth, a pha mor drawsnewidiol fu hyn iddo, yn ei erthygl bersonol ac onest yn rhifyn Chwefror Barn. ✍️
#awtistiaeth #niwrowahaniaeth #diagnosishwyr #iechydmeddwl
📘💡Beth am argymell eich hoff lyfrau - yn enwedig y rhai sy'n archwilio #niwrowahaniaeth, yn cynnwys cymeriadau #niwrowahanol, neu sy'n golygu rhywbeth arbennig i chi?
Efallai mai eich awgrym chi fydd yr union beth sydd ei angen nesaf ar rywun arall.
💡 Gallwch ddisgwyl siaradwyr ysbrydoledig, mewnwelediadau defnyddiol a straeon bywyd go iawn sy’n tanio dealltwriaeth, cysylltiad a chamau gweithredu.
Cofrestrwch nawr a byddwch yn rhan o’r symudiad!
#MaeNiwrogynhwysiantYnBwysig #Niwrowahaniaeth #Cynhwysiant
Mis Hanes LHDTC+ Hapus!
Mae mis Chwefror yn Fis Hanes LHDTC+, sy’n gyfle i gydnabod a dathlu’r rhan y mae gwahanol genedlaethau o bobl LHDTC+ wedi’i chwarae mewn creu newid cymdeithasol a llunio cymdeithas.
#LHDT+ #Croestoriad #Niwrowahaniaeth #NiwrowahanolAcYnFalch
Diolch i bawb a ddaeth draw i siarad gyda ni - mae eich mewnbwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Ydych chi eisiau dysgu mwy am gyflogaeth a #niwrowahaniaeth?
Ewch i’n gwefan: neurodivergencewales.org/cy/cyflogaeth/
Credwn fod deall #niwrowahaniaeth yn well yn rhan allweddol o adeiladu'r dyfodol hwnnw.
Pan fyddwn yn dysgu o arbenigedd byw, rydym yn creu amgylcheddau lle gall pobl #niwrowahanol ffynnu, gartref, yn yr ysgol, yn y gwaith ac yn y gymuned.
Os ydych yn fyfyriwr, gweithiwr proffesiynol, rhiant neu gynghreiriad #niwrowahanol, mae eich llais yn bwysig. Mae eich profiad yn bwysig.
I ddod o hyd i amrywiaeth o adnoddau dwyieithog, am ddim am #niwrowahaniaeth, ewch ar ein gwefan heddiw: www.NeurodivergenceWales.org
Mae heddiw yn #InternationalMensDay, amser i ddathlu cryfder, gwytnwch a photensial dynion a bechgyn ym mhob man
Mae dynion a bechgyn #niwrowahanol yn aml yn wynebu heriau unigryw mewn addysg, cyflogaeth, a iechyd meddwl. Ond mae #niwrowahaniaeth hefyd yn dod â chyfoeth o gryfderau a sgiliau unigol
Cawson ni ddiwrnod gwych yn y Digwyddiad Iechyd a Lles yn Nhŷ Alexandra, Canolfan Byd Gwaith Treganna!
Roedd yn wych cysylltu â chynifer o bobl, rhannu adnoddau am #niwrowahaniaeth, a siarad am sut y gallwn gefnogi lles yn ein cymuned.
I ddyfnhau eich dealltwriaeth o #niwrowahaniaeth, edrychwch ar ein modiwlau e-ddysgu am ddim ar #Awtistiaeth, #ADHD a #Tourettes heddiw. A beth am rannu gyda rhai yn eich rhwydwaith chi i helpu i wneud gwahaniaeth cymaint mwy?
neurodivergencewales.org/cy/adnoddau/...
#AntiBullyingWeek
Mae hi’n Purple Tuesday heddiw!
I ehangu eich dealltwriaeth am #niwrowahaniaeth a gallu helpu pobl #niwrowahanol yn well, ewch ati rŵan i gofrestru ar gyfer ein cynllun ardystiad Deall Awtistiaeth / Derbyn Awtistiaeth sydd ar gael ar lein yn rhad ac am ddim
neurodivergencewales.org/en/employmen...
I ddysgu mwy am #niwrowahaniaeth, ewch i’n gwefan i weld ein hamrywiaeth o fodiwlau eDdysgu am ddim ar #Awtistiaeth, #ADHD a #Tourettes: www.NiwrowahaniaethCymru.org
Mae #niwrowahaniaeth yn cynnwys amrywiaeth eang o wahaniaethau, ac nid yw llawer o’r rhain yn weladwy i bobl o’r tu allan yn syth.
Mae #InvisibleDisabilitiesAwarenessWeek yn gyfle i gydnabod yr effaith anweledig mae #niwrowahaniaeth yn ei chael yn aml ar fywydau unigol.
Byddwn ni yn The Welsh Business Show ar 14 Hydref yn Stadiwm Swansea.com, yn arddangos ac yn cyflwyno seminar ar #Niwrowahaniaeth a Chyflogaeth!
Dewch draw, cysylltwch, ac ymunwch â'r sgwrs: twbs.wales/visitor-regi... #TWBS
Y thema ar gyfer #WorldHumanitarianDay 2025 yw cryfhau diogelwch byd-eang a grymuso cymunedau lleol. O safbwynt #niwrowahanol, mae cynyddu dealltwriaeth o #niwrowahaniaeth o gymorth mawr o ran creu cymdeithas #niwrogynhwysol, gan rymuso pobl #niwrowahanol i ffynnu.
Yfory yw #NationalBookLoversDay, diwrnod sy'n dathlu llenyddiaeth a llyfrau, gan annog y pleser o ddarllen.
P’un ai oes yn well gennych chi ffuglen, bywgraffiad neu ddysgu am ystod o bynciau gan gynnwys #niwrowahaniaeth, beth am ymweld â’ch llyfrgell leol i ddechrau archwilio byd hollol newydd?
Fel tîm niwroamrywiol sydd wedi ymrwymo i wella dealltwriaeth o #niwrowahaniaeth, rydym yn falch o gefnogi cynadleddau a digwyddiadau ym mhob cwr o Gymru, i rannu gwybodaeth, ateb cwestiynau a helpu Cymru ddod yn lle mwy #niwrogynhwysol i bawb.
🎉 Rydym yn arddangos ac yn siarad yn Sioe Fusnes Cymru yn Llanelli heddiw! Dewch i sgwrsio â ni am #niwrowahaniaeth yn y gweithle a darganfod sut mae cyflogaeth gynhwysol o fudd i bawb.
Os ydych yn chwilfrydig, yn angerddol neu ddim ond yn pasio, dewch draw i ddweud helo! 👋
Byddwn yn arddangos ac yn siarad yn The Welsh Business Show yn Llanelli ddydd Iau 10 Gorffennaf. Dewch i ddysgu mwy am #niwrowahaniaeth a chyflogaeth neu dewch draw i ddweud helo!
Ydych chi eisiau dysgu mwy am #niwrowahaniaeth? Ewch i gael golwg ar ein modiwlau e-ddysgu, sydd wedi’u cynhyrchu ar y cyd â’r gymuned #niwrowahanol.
neurodivergencewales.org/cy/adnoddau/...
Thema'r #LonelinessAwarenessWeek eleni yw 'Wynebu Unigrwydd gyda'n Gilydd'.
Ewch i’n gwefan i wella eich dealltwriaeth o #niwrowahaniaeth a helpu i ddatblygu cysylltiadau i greu byd #niwrogynhwysol a #niwrogadarnhaol: neurodivergencewales.org/cy/adnoddau/...
Mae #AgeWithoutApologyMonth yn cynnig cyfle i bawb fod yn nhw eu hunain, waeth beth fo’u hoedran neu niwrofath.
Ewch i’n gwefan i gael amrywiaeth o adnoddau dwyieithog yn rhad ac am ddim a rhannwch y neges hon i annog eraill i ddysgu am #niwrowahaniaeth: niwrowahaniaethcymru.org
🌈 #Pride2025 wedi cyrraedd
Wrth i fis Mehefin ddechrau, rydym yn edrych ymlaen at dymor o ddathlu ledled Cymru. Mae'n foment i ddathlu a chefnogi ein cymunedau LHDTQ+ a'r bobl o'u mewn, gan gynnwys y rhai sy'n #niwrowahaniaeth.
Edrychwch ar y digwyddiadau sy'n digwydd yn eich ymyl chi 👇
Rydym wedi cyffroi i gael siarad yng ngweminar ar-lein The Ajuda Foundation, Deall Niwroamrywiaeth ac Iechyd Meddwl ddydd Iau 12 Mehefin 10am - 12pm.
Archebwch eich lle am ddim rŵan i gynyddu eich dealltwriaeth o iechyd meddwl a #niwrowahaniaeth: www.eventbrite.co.uk/e/understand...
Oeddech chi’n gwybod, mae’r Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol yn cynnal sesiynau gwybodaeth ar-lein i rieni a gofalwyr? Mae’r sesiynau hyn am ddim ac yn darparu gwybodaeth am ystod o destunau sy’n ymwneud â niwrowahaniaeth. Mae pob sesiwn yn cynnwys cyflwyniad a holi ac ateb i ddilyn. Mae pob un o’n sesiynau wedi’u recordio ac ar gael i’w gwylio am ddim yn NiwrowahaniaethCymru.org
neurodivergencewales.org/cy/rhieni-a-...
#RhieniGofalwyr #Gweminarau #Niwrowahaniaeth
I ddeall mwy am y cysylltiad rhwng EDS, Hypersymudedd a #niwrowahaniaeth, gwyliwch ein sesiwn Cymuned Ymarfer wedi’i hardystio gan CPD - Dr Jessica Eccles – Hypersymudedd, Poen a Niwrowahaniaeth: neurodivergencewales.org/en/resources...
#EDSAwarenessMonth
#HSDAwarenessMonth
#InternationalDayOfFamilies
Ewch ar ein gwefan i wrando ar drafodaeth sain Rhieni #ND - ble mae rhieni #niwrowahanol yn rhannu eu profiadau ar ystod o bynciau’n ymwneud â #niwrowahaniaeth yn cynnwys Hunan Ofal a Rheoleiddio ar y Cyd: neurodivergencewales.org/cy/rhieni-a-...
#MaternalMentalHealthAwarenessWeek
Gwyliwch ein Cymuned Ymarfer ar #Niwrowahaniaeth ac Iechyd Meddwl Amenedigol, lle mae Emma Durman o AutSide Education and Training yn sôn am feichiogrwydd, trawma, rhianta niwrofathau cymysg a mwy: neurodivergencewales.org/cy/adnoddau/...