Mae'r llun yn dangos taflen ar gyfer drama gerdd, Diwrnod Mawr ym Merthyr, a berfformiwyd gan Ysgol Gyfun Rhydfelen ar y 12fed a’r 13eg o Hydref, 1979. Cefndir coch gyda llun du syml, arddulliedig o "Roced" Stevenson gyda'r testun du canlynol yn Gymraeg: Diwrnod Mawr ym Merthyr Cwmni drama Ysgol Gyfun Rhydfelen Cerddoriaeth: Ann Hopcyn HYDREF 12, 13, 1979 Gan Emyr Edwards Cedwir y casgliad hwn yn Archifau Morgannwg
Mae ein gwirfoddolwyr yn gweithio ar ddetholiad o lyfrau lloffion a gasglwyd gan Ysgol Rhydfelen. Dyma'r daflen ar gyfer cynhyrchiad o ddrama gerdd Gymraeg, Diwrnod Mawr ym Merthyr, a berfformiwyd gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Rhydfelen ym 1979 #EYAAddysg #paidstopiodysgu