Llun yn dangos dalen felen o bapur gyda darlun lliw o bum blodyn ymenyn ar goesyn gwyrdd yn y gornel chwith uchaf. Mewn llawysgrifen plentyn mae’n dweud “my dear old Daddy Boy” gan ddiolch iddo am anrheg pen-blwydd, bocs paent. Ysgrifennwyd y llythyr at y bardd rhyfel, Edward Thomas gan un o'i blant [tua1915]. Daw'r eitem hon o gasgliad o ohebiaeth bersonol yn ymwneud â Thomas a gedwir yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.
Gwirfoddolwch gyda ni a dysgu sgil newydd!
Gall trawsgrifio dogfennau digidol gynnig sawl mantais, yng nghyd-destun e-ddysgu ac addysg [ac mae’n hwyl 😁].
Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael sesiwn hyfforddi ar-lein ac yna cefnogaeth gyson 🫶 Dathlu #wythnosaddysgoedolion #paidstopiodysgu #EYAAddysg